Dyn 30 oed ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth

13/07/2026
Blaenplwyf A487

Mae dyn 30 oed wedi dioddef anafiadau difrifol allai newid ei fywyd ar ôl gwrthdrawiad un cerbyd ym Mlaenplwyf ger Aberystwyth.

Beic modur Glas Suzuki oedd y cerbyd yr oedd y dyn yn ei yrru.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 07.00 ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11 ar ffordd yr A487.

Mae'r dyn yn parhau yn yr ysbyty ar ôl cael ei gludo yno gan ambiwlans awyr.

Yn ôl y llu mae'r heddlu yn cynnig cefnogaeth arbenigol i'r teulu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i lygad dystion gysylltu â nhw neu unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd yn ystod yr amser hynny o'r bore a sydd â deunydd dashcam. 

Llun: Google maps 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.