Mwy na 2,700 o bobl o bosib wedi marw yn ystod y tonnau gwres
Mae’n bosib bod mwy na 2,700 o bobl wedi marw yng Nghymru a Lloegr o achosion cysylltiedig â gwres yn ystod y cyfnodau poethaf erioed i gael eu cofnodi ym misoedd Mai a Mehefin eleni.
Dyna amcangyfrif arbenigwyr.
Yn ôl ymchwilwyr o Goleg Imperial Llundain, y Swyddfa Dywydd ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM), mae’r ffigurau’n awgrymu bod tua 2,700 o farwolaethau ychwanegol wedi digwydd yn ystod y ddwy don wres.
Mae’r ymchwil hefyd wedi canfod bod newid hinsawdd wedi cyfrannu’n sylweddol at nifer y marwolaethau.
Fe wnaeth yr arbenigwyr amcangyfrif bod 550 o bobl wedi marw o achosion cysylltiedig â gwres rhwng 21 a 29 Mai, a 2,200 yn ystod yr 11 diwrnod ym mis Mehefin pan gafwyd yr ail don wres.
‘Cynnar yn y flwyddyn’
Mehefin eleni oedd y mis Mehefin poethaf erioed i gael ei gofnodi yn Lloegr, gyda’r tymheredd yn codi uwchlaw 37C.
Roedd rhybudd coch mewn grym mewn rhannau o Gymru a Lloegr, gan olygu bod risg i fywyd.
Mae’r astudiaeth yn dangos bod modd priodoli tua 59% o’r marwolaethau ym mis Mai a 38% ym mis Mehefin i’r gwres ychwanegol a gafodd ei achosi gan newid hinsawdd.
Roedd y tymheredd yn ystod y dydd rhwng 3C a 4C yn uwch oherwydd newid hinsawdd, meddai’r ymchwilwyr.
Mae gwres yn gallu rhoi straen ar y galon a’r arennau. Mae hefyd yn gallu gwaethygu cyflyrau fel clefyd y galon, diabetes a chyflyrau’r ysgyfaint.
Mae’r risg o foddi hefyd yn uwch pan fydd y tymheredd yn uchel.
Yn ôl Dr Mark McCarthy o’r Swyddfa Dywydd, roedd mis Mehefin yn arbennig oherwydd ei bod yn boeth ac yn llaith yn ystod y nos hefyd.
“Roedd y rhain yn donnau gwres eithafol i’r DU ac i orllewin Ewrop gyfan, ac maen nhw’n arbennig o eithriadol oherwydd eu bod wedi digwydd mor gynnar yn y flwyddyn," meddai.
“Mae’r cyfuniad hwn o wres eithafol yn ystod y dydd, lleithder uchel a nosweithiau poeth yn cyfrannu’n sylweddol at gynyddu effaith y tonnau gwres hyn ar ein seilwaith, ar drafnidiaeth, amaethyddiaeth ac, yn enwedig, ar ein hiechyd a’n lles."
Angen ‘deffro’
Dywedodd Dr Clair Barnes o Goleg Imperial Llundain mai tonnau gwres yw’r “math mwyaf peryglus o dywydd eithafol”.
“Mae’n rhaid i ni ddeffro i’r ffaith ein bod yn byw mewn gwlad sydd ag hafau peryglus o boeth.
“Er mwyn amddiffyn pobl rhag cyfnodau o dywydd eithafol yn y dyfodol, mae’n rhaid i ni addasu ar frys i realiti’r hinsawdd sydd gennym erbyn hyn. Mae angen cryfhau ymdrechion byd-eang i gyrraedd allyriadau sero net er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu,” meddai.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud y dylai gwledydd Ewrop baratoi ar gyfer tonnau gwres yn yr un modd ag y maent yn paratoi ar gyfer ffliw’r gaeaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net na fyddai Llywodraeth y DU yn “gadael i’n plant a’n hwyrion orfod wynebu effaith a chost newid hinsawdd a dirywiad byd natur”.
Ychwanegodd Ed Miliband: “Dyna pam rydym yn gweithio gydag eraill i sbarduno gweithredu sy’n sicrhau diogelwch ynni a biliau is, yn cefnogi busnesau Prydain ac yn creu swyddi da, ac yn diogelu ein cartrefi a’n cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Llun: Ben Whitley/PA