‘Dim cefnogaeth glir i ddychwelyd at hen system bleidleisio’r Senedd’
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn ffafrio cadw’r system bleidleisio newydd ar gyfer etholiadau’r Senedd na dychwelyd at yr hen drefn, yn ôl ymchwil academaidd newydd.
Mae Astudiaeth Etholiad Cymru 2026, sy’n seiliedig ar arolwg o 10,000 o bobl ledled Cymru, yn awgrymu nad oes cefnogaeth glir ymhlith pleidleiswyr i ailgyflwyno’r hen system o bleidleisio dros ymgeiswyr unigol.
Yn ôl yr ymchwil, roedd 35.2% o’r rhai a holwyd o blaid cadw’r system newydd, lle mae pleidleiswyr yn dewis plaid wleidyddol. 30.6% a oedd yn ffafrio dychwelyd at y system flaenorol.
Cafodd yr ymchwil ei wneud gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe.
Mae'n dangos bod dealltwriaeth o’r system gynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig wedi gwella yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd ym mis Mai.
Er hynny, dywedodd 58% nad oeddent yn deall yn llawn sut roedd y system newydd yn gweithio.
Roedd bron i saith o bob deg, sef 69%, yn dweud eu bod wedi ei chael hi’n hawdd bwrw eu pleidlais, tra bod 58% yn ystyried y system yn un deg o ran trosi pleidleisiau yn seddi.
Fe ddaeth yr astudiaeth hefyd o hyd i’r ffaith fod pleidleisio tactegol wedi chwarae rhan yn yr etholiad. Dywedodd chwarter yr ymatebwyr eu bod wedi pleidleisio dros blaid benodol er mwyn atal plaid arall rhag ennill yn eu hetholaeth.
Yn ôl yr ymchwilwyr, Plaid Cymru oedd y blaid wnaeth elwa fwyaf o'r pleidleisio tactegol hwnnw. Aeth y blaid ymlaen i ennill y nifer fwyaf o seddi a’r gyfran uchaf o’r bleidlais yn etholiad y Senedd eleni.
Wrth edrych ar agweddau pleidleiswyr tuag at y pleidiau gwleidyddol, nodwyd bod ymatebion cadarnhaol iawn i Blaid Cymru a Phlaid Werdd Cymru. Mewn cyferbyniad, roedd agweddau tuag at Reform UK yn llawer mwy negyddol, gyda llawer yn cysylltu’r blaid â theimladau o ofn, dicter ac anniddigrwydd.
Edrychodd yr ymchwil hefyd ar deimladau pobl am eu cymunedau lleol. Dywedodd 41% fod ymgyrch etholiad y Senedd wedi rhannu pobl yn eu hardaloedd yn hytrach na’u dwyn ynghyd.
Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, sy’n cyd-arwain yr astudiaeth, efallai y bydd canlyniadau'r astudiaeth yn sioc i nifer.
“Efallai y bydd y gefnogaeth i’r system bleidleisio newydd yn syndod i lawer. Heb os, bydd yn dylanwadu ar y ddadl barhaus ynghylch diwygiadau etholiadol posibl yn y dyfodol,” meddai.
Yr economi
Ychwanegodd, er bod llawer wedi gweld y system yn hawdd i’w defnyddio, fod dealltwriaeth o’r ffordd yr oedd yn gweithio yn parhau’n gyfyngedig.
Yn ehangach, mae’r astudiaeth yn awgrymu bod llawer o bobl yn parhau’n bryderus am gyflwr economaidd eu hardaloedd lleol. Roedd nifer sylweddol yn teimlo bod eu cymunedau wedi dirywio’n economaidd, ac nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i wella’r sefyllfa.
Y gwasanaeth iechyd, costau byw, tai a swyddi oedd y materion pwysicaf i bleidleiswyr yn ystod yr ymgyrch. Fodd bynnag, dywedodd tua thraean nad oeddent yn siŵr pa blaid wleidyddol oedd fwyaf cymwys nac yn ymddiried ynddi i fynd i’r afael â’r heriau hynny.
Dywedodd Dr Bettina Petersohn o Brifysgol Abertawe fod pobl yn tueddu i fod â barn fwy cadarnhaol am eu hawdurdodau lleol nag am lywodraethau cenedlaethol.
“Er bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros newid yn yr etholiad hwn, nid yw llawer yn disgwyl y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w hardal leol,” meddai.