Ffrindiau yn paratoi at her 100 milltir er cof am Josh Roberts

13/07/2026
Josh Roberts

Mae grŵp o ffrindiau’n paratoi at daith gerdded o gartref newydd clwb pêl-droed Everton i stadiwm Yr Oval yng Nghaernarfon er cof am Josh Lloyd Roberts. 

Bwriad y criw yn ogystal â chofio am eu ffrind, ydi codi arian i dri sefydliad sy’n cefnogi pobl ifanc ac iechyd meddwl.

Bydd y grŵp o ffrindiau’n cerdded dros 100 milltir rhwng Lerpwl a Chaernarfon ddiwedd mis Awst er cof am Josh, a fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion tref Caernarfon yn 2023.

Bydd yr her yn dechrau ar 27 Awst yn Stadiwm Hill Dickinson, cartref newydd Everton, ac yn dod i ben ar 30 Awst yn yr Oval, cartref Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon.

Dywedodd un o ffrindiau Josh sydd wedi trefnu'r daith, Iwan Wyn Bohana ei fod yn gobeithio byddai'r her yn dangos bod Josh heb gael ei anghofio.

"Roedd hi yn dair blynedd ers colli Josh mis dwytha, ac felly oedda ni yn meddwl amdan o dipyn," meddi wrth Newyddion S4C.

"Mae hefyd yn benblwydd ar Josh 28 o Awst ac ers colli Josh, ‘dan ni wedi bod yn dod at ein gilydd fel ffrindia adra ac ffrindia coleg ac yn chwarae gêm pêl-droed bob blwyddyn i’w gofio.

"Oedda ni yn teimlo fel fod fysa yn dda gwneud rhywbeth gwahanol flwyddyn yma ar scale uwch ac fydd yn cael fwy o sylw 

"Rydyn ni yn gobeithio fydd y daith yn dangos cefnogaeth y gymuned tuag at Josh ac faint oedd yn feddwl i gwahanol bobol  ac yn dangos bod o ddim yn cael ei anghofio 

"'Dan ni yn gwneud hefyd i gefnogi’r teulu ac hefyd i gobeithio neud Josh yn falch."

Image
Criw josh

Roedd Josh, a oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel “Pickle”, yn gefnogwr selog o Gaernarfon ac Everton. Dyna’r rheswm dros ddewis y mannau cychwyn a gorffen.

Bydd yr her yn codi arian i dri achos sy’n agos at galonnau’r criw o ffrindiau. Gôl, Clwb Ieuenctid Porthi Dre a Two Pints Deep, elusen sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl mewn dynion.

Dywedodd y trefnwyr fod Gôl a Phorthi Dre yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ifanc yn y gymuned yng Nghaernarfon.

Mae Two Pints Deep yn annog dynion i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl ac yn ceisio creu cyfleoedd iddyn nhw allu gwneud hynny. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.