Diffoddwyr tân yn ymateb i ddau dân glaswellt arall yng ngogledd Cymru

Swyddog Tân

Mae criwiau tân yn ymateb i ddau dân glaswellt arall yng ngogledd Cymru nos Sul.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am 18.30 fod criwiau yn delio â thân ar Fynydd Helygain, Sir y Fflint.

Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i osgoi’r ardal er eu diogelwch ac er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys fynd i’r afael â’r digwyddiad.

Yn gynharach, dywedodd y gwasanaeth ei fod wedi derbyn nifer mawr o alwadau ynghylch tân yng Nghoedwig Braichmelyn, Bethesda.

Roedd diffoddwyr tân yn bresennol ac yn monitro’r sefyllfa am 17.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.