Newyddion S4C

Clustnodi £48m i'r sector gofal cymdeithasol sydd dan ‘bwysau sylweddol’

14/09/2021
S4C

Mae £48m o gyllid wedi cael ei glustnodi ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r “pwysau sylweddol” mae’r sector yn ei wynebu.

Mae’r sector wedi’i tharo’n galed gan bandemig Covid-19, gyda prinder staff, marwolaethau mewn cartrefi gofal a chynnydd mewn costau yn rhoi mwy o faich ar y system.

Bydd £40m yn cael ei roi i awdurdodau lleol, a £8m yn cael ei ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau penodol.

Daw hyn o gronfa adfer y llywodraeth, gwerth £551m, sydd eisoes wedi’i gyhoeddi ym mis Awst.

Mae canran o’r arian yn cael ei dargedu tuag at ymestyn cymorth i ofalwyr, mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn, buddsoddi mewn gwasanaethau preswyl i blant mewn gofal, ac i les y gweithlu.

Dros yr haf, fe rybuddiodd Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu hadroddiad blynyddol mai prinder gofalwyr sy'n peri’r pryder mwyaf iddynt.

Yn gyfuniad o weithwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd i Ewrop, a’r pwysau ychwanegol mae’r pandemig yn ei roi, mae sawl un wedi cefnu ar y diwydiant, gan achosi problemau staffio dybryd.

‘Y gweithlu wedi blino’n lân’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan: “Mae gofal cymdeithasol yn uchel iawn ei werth inni yma yng Nghymru ac rydym yn gofyn llawer o'r sector.

“Mae'n wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i'r pandemig ac – yn union fel staff y GIG – mae'r gweithlu wedi blino’n lân ar ôl gweithio mor galed cyhyd.”

Ymhlith y dyraniadau ar gyfer y gronfa mae’r £40m i awdurdodau lleol, £2.8m i warchod plant a theuluoedd sy’n gysylltiedig â’r gofrestr amddiffyn plant a £2.8m ar gyfer darparu llety i blant ag anghenion cymhleth.

£1m sy’n cael ei ychwanegu i’r gronfa cymorth i ofalwyr.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, cyflwyno rhagor o fanylion am ofal cymdeithasol yng Nghymru mewn cynhadledd i’r wasg am 12:00. 

'Dim ateb wedi'i gyflwyno'

Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Weinidog Cysgodol Gwasanaethau Cymdeithasol y Ceidwadwyr, Gareth Davies AS:

“Mae’r cyhoeddiad cyllido hwn yn cael ei groesawu, ond yn anffodus ni fydd yn lliniaru’r problemau y caniatawyd iddynt dyfu o fewn system gofal cymdeithasol Cymru.

“Yn anffodus, nid cynllun ar gyfer gofal cymdeithasol mo hwn ac ni fydd yn mynd i’r afael â’r loteri cod post sydd i’r ddarpariaeth yng Nghymru. Nid oes ateb wedi'i gyflwyno yma ac unwaith y bydd wedi'i rannu â 22 cyngor, mae'r cyllid yn ddiferyn yn y môr.

“Serch hynny, mae sut mae’r arian hwn yn cael ei wario yn bwysig a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y pot hwn wedi’i glustnodi â chanllawiau llym ar gyfer cynghorau fel y gallwn fod yn hyderus y bydd yn cael ei ddefnyddio yn yr ardaloedd a fwriedir.

“Mae gweinidogion Llafur yng Nghymru wedi dweud wrthym ers amser maith y byddai eu cynllun mawreddog ar gyfer gofal cymdeithasol yn barod unwaith y bydd Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi ei chynllun ei hun ar gyfer Lloegr. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn ddim doethach o ran pryd y bydd rhaglen wirioneddol yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.