Angen ‘newid sylfaenol’ i’r drefn bresennol o redeg Cylchoedd Meithrin

Dr Catrin Edwards

Mae Prif Weithredwr Mudiad Meithrin wedi dweud bod angen “newid sylfaenol” i’r ffordd y mae Cylchoedd Meithrin yn cael eu llywodraethu.

Mae’r mudiad yn dweud mewn adroddiad newydd nad yw’r system bresennol, lle mae rhieni a gwirfoddolwyr lleol yn rheoli’r cylchoedd, yn gweithio i bawb.

Mae gwirfoddolwyr dan “bwysau cynyddol”, ac roedd 66% o aelodau pwyllgorau am leihau nifer yr oriau yr oedden nhw’n gwirfoddoli, meddai’r mudiad.

Mae’r adroddiad yn dweud bod 1,200 o wirfoddolwyr, menywod yn bennaf o hyd, yn gyfrifol am redeg y rhan fwyaf o’r 400 a mwy o Gylchoedd Meithrin. 

Maent yn “ysgwyddo cyfrifoldebau sy’n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn mewn sector sy’n ehangu ac yn cael ei reoleiddio’n fwyfwy”.

Ond dywedodd y mudiad nad oedd ganddo eto “ddisgrifiad llawn o raddfa’r heriau na faint o Bwyllgorau sy’n teimlo eu bod wedi’u llethu gan y llwyth gwaith”.

Dywedodd Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, fod angen “i ni fel Mudiad hefyd foderneiddio i wynebu’r heriau cynyddol ar draws y sector gofal plant.

“Mae mynd i’r afael â’r pwysau cynyddol y mae rhai gwirfoddolwyr a phwyllgorau yn eu profi yn parhau’n flaenoriaeth wrth inni baratoi’r Mudiad a’n haelodau i ddarparu gofal plant sy’n ymateb i anghenion rhieni a gofalwyr, nawr ac yn y dyfodol.”

Beth yw’r atebion?

Er mwyn lleihau’r baich ar wirfoddolwyr, mae’r Mudiad yn ystyried disodli Pwyllgorau Rheoli Gwirfoddol drwy gyflwyno Byrddau Llywodraethu ar lefel cylch neu glwstwr, neu symud at reolaeth ganolog gan y Mudiad Meithrin.

“Rhaid i benderfyniadau am newidiadau parhaol gael eu gwneud ar sail tystiolaeth gadarn a thrwy ystyriaeth fanwl o’r modelau amgen,” meddai’r adroddiad.

Mae'r ddogfen yn argymell cynnal asesiad o’r modelau gwahanol.

Bydd pecyn cymorth brys hefyd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2026, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, meddai’r mudiad.

Mae disgwyl iddo gynnwys cymorth Adnoddau Dynol estynedig, mwy o gymorth ar lawr gwlad i bwyllgorau a staff, hyfforddiant ychwanegol, a rôl fwy i reolwyr cyflogedig neu weinyddwyr busnes.

Ymateb

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

“Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth, rydyn ni wedi dechrau ar y gwaith o wireddu ein hymrwymiad i gyflwyno’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU.

“Bydd y cynnig hwn yn darparu 20 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.

“Mae’r Gymraeg wrth galon y cynnig hwn, ac mae gofal plant cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o’n huchelgais i gyrraedd miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg.

“Mae taith iaith plant yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae sicrhau mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel yn hanfodol.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ehangu’r ddarpariaeth ledled Cymru ac i adeiladu’r capasiti sydd ei angen ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n falch o gefnogi Mudiad Meithrin wrth iddo barhau i ddatblygu a moderneiddio, gan gryfhau ei allu i gefnogi a thyfu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

“Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod Cylchoedd Meithrin yn parhau wrth galon ein cymunedau, gan ddarparu profiadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf i blant a’u teuluoedd.”

Yr adroddiad

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar fodelau amgen y gallai’r Mudiad eu hystyried, gyda’r bwriad o dynnu’r pwysau rheoli oddi ar wirfoddolwyr.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod nifer fawr o bwyllgorau a chylchoedd yn ffynnu, gan ddarparu gofal ac addysg o ansawdd uchel sy’n meithrin y Gymraeg ymhlith plant ifanc. Ond mae rhai pwyllgorau angen cymorth pellach. 

Yn dilyn dadansoddiad o holiadur ar gyfer aelodau pwyllgorau, a rannwyd yn gyhoeddus ym mis Mai eleni, daeth tri phrif bwynt i’r amlwg:

  • Roedd 66% o aelodau pwyllgorau am leihau nifer yr oriau yr oedden nhw’n gwirfoddoli.
  • Roedd 49.1%, bron i hanner aelodau pwyllgorau, am gael cymorth datblygu busnes
  • Roedd 40.4% am fod yn rhan o rwydwaith fyddai yn dod ag arbenigedd a phrofiad at ei gilydd ar raddfa fwy er mwyn cefnogi a chynnal Cylchoedd Meithrin.

Wrth i’r sector gofal plant dyfu a datblygu, mae’r adroddiad yn dweud fod angen cryfhau’r gefnogaeth a moderneiddio’r ffordd y mae’r pwyllgorau’n gweithredu drwy:

  • wella’r gefnogaeth i wirfoddolwyr
  • cryfhau llywodraethiant
  • sicrhau mwy o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Mae’r adroddiad yn archwilio tri phrif opsiwn ar gyfer llywodraethiant yn y dyfodol:

  • parhau â’r model presennol o Bwyllgorau Rheoli Gwirfoddol, ond gyda chefnogaeth ychwanegol
  • mabwysiadu Byrddau Llywodraethu, gan sicrhau rhaniad clir rhwng llywodraethu a rheoli o ddydd i ddydd
  • symud tuag at reolaeth ganolog gan y Mudiad Meithrin.

Ychwanegodd Dr Catrin Edwards: “Nod y gwaith pwysig yma yw sicrhau bod Cylchoedd Meithrin yn parhau i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg.

“Mae’r newid hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein cylchoedd yn parhau’n gynaliadwy ac yn gallu cyflawni’r weledigaeth o gynnig profiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd a rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.