Cymunedau Cymraeg Brycheiniog yn 'dechrau ffynnu' unwaith eto ar ôl ‘chwalfa Epynt’

Epynt / Gethin Havard

Mae’r Gymraeg yn “dechrau ffynnu” unwaith eto yng nghymunedau Sir Frycheiniog ar ôl cael ei “chwalu” pan feddiannwyd Mynydd Epynt gan y fyddin yn 1939, yn ôl rhai sy’n byw yn yr ardal.

Cafodd 219 o bobl o 54 o ffermydd yng nghymuned Epynt eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth i’r Fyddin Brydeinig feddiannu ardal o tua 33,000 o erwau er mwyn creu ardal hyfforddi filwrol.

Cafodd y penderfyniad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn effaith sylweddol ar y Fro Gymraeg, gyda nifer o siaradwyr yn cael eu gwasgaru i ardaloedd lle nad oedd yr iaith mor flaenllaw. 

Mae Ardal Hyfforddi Pontsenni, sef yr ardal hyfforddi filwrol fwyaf yng Nghymru, yn parhau dan feddiant y fyddin.

Image
Epynt
Cafodd 219 o bobl o 54 o ffermydd yng nghymuned Epynt eu gorfodi i adael eu cartrefi (Llun: Cefn Gwlad)

Gethin Havard, perchennog fferm Llwynrhys ym Mhontsenni, lai na phum milltir o’r mynydd, yw llywydd anrhydeddus y Sioe Frenhinol eleni.

“Collwyd cymuned Gymraeg dros nos fan ‘na,” meddai mewn cyfweliad ar gyfres S4C, Cefn Gwlad.

“Torrodd yr Ail Ryfel Byd mas ac roedd angen i’r milwyr ymarfer yn rywle ar gyfer y frwydr a gath 54 teulu chwe wythnos o rybudd i symud mas. 33 miloedd o aceri, ysgol, capel. 

“Yr iaith, dyna’r peth mwyaf collwyd. Bydde mwyafrif y trigolion yn siarad yr iaith Cymraeg  a collwyd 54 o deuluoedd Cymraeg dros nos. 

“Mi ‘nath rhai ohonyn nhw aros yn gymharol lleol, ond lot ohonyn nhw wedi mynd yn bellach i ffwrdd ag yr iaith yn mynd ‘da nhw. Mi gath e dylanwad mawr ar yr ardal wrth gwrs. Mae cymuned ar goll nawr rhwng Llanfair-ym-muallt a Pontsenni, ag Aberhonddu.”

Image
Gethin a'i deulu
Gethin a Ceri Havard, a'r teulu

Digwyddiad arbennig

Gyda Sir Frycheiniog yn sir nawdd i’r Sioe Frenhinol eleni, cafodd digwyddiad arbennig ei drefnu’n ddiweddar er mwyn codi arian at y sioe ac i gofio hanes yr Epynt, fel rhan o Sioe Amaethyddol Pontsenni.

Cymerodd dros 200 o bobl ran mewn taith beic cwad ar y mynydd, gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhoi caniatâd i gamerâu Cefn Gwlad ffilmio ar y mynydd.

“Mae gyda’r rhan fwyaf o’r bobl hŷn fel hyn atgofion o’u teuluoedd yn dod, cynteidiau’n dod o’r Epynt,” meddai Mr Havard.

Dywedodd ei wraig, Ceri Havard: “Da ni di mynd i ardaloedd da ni erioed di bod o’r blaen.

“Mae ‘na lot o hanes fan hyn. 85 mlynedd ers i’r ardal gael ei chwalu mewn gwirionedd, a’r teuluoedd yn gadael. Da ni’n ffodus iawn i gael dod yn ôl yma.”

Mae hi’n credu bod gwaith mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi sbarduno twf yng nghymunedau Cymraeg yr ardal.

Ychwanegodd Ms Havard: “Pan chwalwyd yr Epynt, pan gollwyd y tai, fe gollon ni diwylliant, gollon ni’r iaith a gymerodd hwnna beth amser i ddod yn ôl mewn gwirionedd. Ond mae’r Gymraeg yn dechrau ffynnu eto yma. 

“Mae ‘na bobl sydd di symud i fewn i’r ardal sy’n Gymry ond mae 'na Gymry cynhenid sydd hefyd.”

Image
Epynt
Cymerodd dros 200 o bobl rhan mewn taith beic cwad elusennol ar Fynydd Epynt (Llun: Cefn Gwlad)

Er gwaethaf y teimladau cryfion am yr hyn a ddigwyddodd 87 mlynedd yn ôl, mae’r berthynas rhwng y fyddin a’r gymuned leol wedi newid yn sylweddol dros y degawdau.

Arwydd o’r newid yw bod Mr Havard a’r pwyllgor trefnu wedi dewis yr Uwchgapten Andrew Butcher MBE, sy’n gyfrifol am yr Epynt ar ran y fyddin ac sydd wedi symud i fyw yng Nghwm Senni ers ymgymryd â’r rôl, i agor y Sioe yn swyddogol ar ran Brycheiniog.

“Mae’n dal i gael ei ddefnyddio, hwnnw sy’n bwysig,” meddai Gethin. 

“Mae’r fyddin yn bwysig, mae’n creu swyddi ac maen nhw’n gefnogol o dafarnau, ond da ni’n gyfarwydd o gweld milwr bron bob dydd. Maen nhw’n rhan o’n bywyd ni.”

Yn ogystal ag Epynt, bydd y rhaglen yn rhoi sylw i’r ymgyrch lwyddiannus gan drigolion i atal Cwm Senni rhag cael ei foddi i fod yn gronfa ddŵr yn yr 1960au.

Bydd Cefn Gwlad: Gethin Havard yn cael ei darlledu am 21.00 ar Nos Lun 13 Gorffennaf ar S4C, ac fe fydd ar gael i’w ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.