Cyn-AS Ann Widdecombe wedi marw yn 78 oed
Mae'r cyn-weinidog, Aelod Seneddol ac Aelod Senedd Ewrop Ann Widdecombe wedi marw yn 78 oed.
Yn wleidydd Ceidwadol ers amser maith, ymunodd â Phlaid Brexit yn ddiweddarach yn 2019, a ddaeth wedyn yn Reform UK.
Daeth i sylw'r cyhoedd hefyd am ei hamser ar Strictly Come Dancing y BBC.
Cafodd Anne Widdecombe ei geni ym 1947 ac aeth i'r senedd ym 1987 yn cynrychioli sedd Maidstone yng Nghaint.
Roedd hi wedi gwasanaethu fel cynghorydd yn flaenorol ac wedi gweithio i'r Blaid Geidwadol.
O dan John Major roedd hi'n weinidog cyflogaeth ac yna'n weinidog carchardai.
Camodd Widdecombe i lawr o'r senedd yn 2010, wrth i'r Torïaid ddychwelyd i'r llywodraeth.
Yna fe ail-ymunodd â gwleidyddiaeth yn 2019 fel ASelod Senedd Ewrop i blaid Brexit.
Yn etholiad cyffredinol 2019, safodd eto dros San Steffan yn sedd Plymouth Sutton a Devonport dros blaid Nigel Farage, ond gorffennodd yn drydydd ymhell y tu ôl i'r Torïaid a Llafur