Dwy dref yn y de ar restr fer Tref Diwylliant y DU

10/07/2026
Port Talbot a Phontypridd

Mae trefi Port Talbot a Phontypridd wedi eu cynnwys ar restr fer ar gyfer grant o £3 miliwn fel Tref Diwylliant y DU 2028.

Maen nhw ymhlith y 15 tref ar y rhestr fer, wedi'u dewis o bron i 400 o ymgeiswyr, a fydd yn derbyn £60,000 i ddatblygu cynigion llawn i ennill y wobr.

Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth Tref Diwylliant y DU gael ei chynnal, ar y cyd â gwobr Dinas Diwylliant 2029.

Bydd y dref fuddugol yn derbyn grant llywodraeth o £3 miliwn ac yn cynnal tymor o ddigwyddiadau diwylliannol y flwyddyn honno.

Mae'r trefi ar y rhestr fer wedi'u rhannu'n dri categori, gydag un o bob un i ffurfio rhestr o ymgeiswyr terfynol lle bydd yr ail yn derbyn grant o £250,000.

Mae Port Talbot a Phontypridd wedi eu cynnwys yng nghategori’r tref ganolig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lisa Nandy: “Hoffwn longyfarch y 15 tref ar y rhestr fer o galon a dymuno pob lwc iddyn nhw yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi derbyn cymaint o geisiadau yn dangos pa mor falch yw pobl o’u trefi. 

"Pan lansiais y gystadleuaeth hon, roeddwn i eisiau tynnu sylw at ein trefi anhygoel ledled y DU a’r cyfraniad enfawr maen nhw’n ei wneud i’n bywyd cenedlaethol.

“Rwyf mor falch bod cymaint o drefi wedi gwneud cais a gobeithio bod pob tref, p’un a ydyn nhw wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio, yn hynod falch o’r gwaith maen nhw wedi’i wneud i hyrwyddo eu cymuned leol.”

Penderfynwyd ar restr fer Tref o Ddiwylliant gan banel annibynnol dan gadeiryddiaeth Syr Phil Redmond wnaeth greu’r rhaglenni teledu Brookside a Grange Hill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.