12 o bobl wedi marw mewn tân gwyllt yn Sbaen wrth i don wres barhau yn ne Ewrop

Tân yn Sbaen

Mae o leiaf 12 o bobl wedi marw a chwech wedi'u hanafu mewn tân gwyllt yn ne Sbaen, meddai llywodraeth ranbarthol Andalusia.

Mae tua 150 o ddiffoddwyr tân yn brwydro’r tân.

Mae ymladdwr tân o Ffrainc ymhlith y rhai a fu farw.

Yn ôl adroddiadau lleol cafodd y tân ei achosi gan linell bŵer a dorrodd i lawr, cyn lledu i ardal goediog yn Los Gallardos, Almeria ond nid yw'r awdurdodau wedi cadarnhau hynny eto.

Mae ton wres gyda thymheredd o tua 40C (104F) wedi achosi tanau gwyllt ledled de Ewrop yr haf hwn.

Mae cannoedd o ddiffoddwyr tân yn brwydro yn erbyn digwyddiadau mawr yn Ffrainc, Portiwgal a Sbaen, gyda miloedd yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.

Dywedodd llywodraeth ranbarthol Andalusia:"Mae nifer y bobl a fu farw yn y tân yn Los Gallardos wedi codi i 12 ar ôl cadarnhau chwe marwolaeth arall.”

Cafwyd hyd i gyrff nifer o bobl mewn ceir, ar ôl ceisio dianc rhag y fflamau wrth i'r tân ledaenu yn ystod y nos.

Llun: EPA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.