Fêps i 'gael eu gosod mewn blychau plaen er mwyn amddiffyn plant'

Feps untro

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros iechyd cyhoeddus, Nerys Evans, yn dweud bod angen i'r cyhoedd "gefnogi ymdrechion" ar newidiadau i atal fêps rhag cael eu marchnata i blant.

Bydd fêps yn cael eu gosod mewn blychau plaen fel rhan o newidiadau newydd posib.

Yn rhan o'r cynlluniau gallai ddod i rym ledled y Deyrnas Unedig, bydd y blychau mewn lliwiau gwyn, du neu lwyd yn unig.

Hefyd, bydd cyfyngiadau posib ar ddisgrifiad blasau gwahanol fêps gydag enwau fel ‘afal’ yn unig i gael eu defnyddio, tra bydd unrhyw flasau ag enwau sy'n gysylltiedig â losin, bwydydd ac alcohol yn cael eu gwahardd.

Dros y 12 wythnos nesaf, fe fydd Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau cyn iddyn nhw ddod i rym.

Dywedodd Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol Llywodraeth Cymru fod angen i'r cyhoedd gefnogi'r ymdrechion hyn.

"Mae fêps yn cael eu dylunio a'u marchnata yn fwriadol i apelio at blant, gyda lliwiau llachar, brandio cartwnaidd ac enwau blasau sy'n swnio'n felys sydd â dim lle mewn cynnyrch sydd yn cynnwys nicotin," meddai Nerys Evans.

"Yn syml, mae'n annerbyniol a dwi'n annog pawb i gefnogi ein hymdrechion i warchod iechyd plant."

'Atal'

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth y DU, James Murray, fod cuddio fêps allan o olwg mewn siopau hefyd yn un o'r newidiadau sydd yn cael eu hystyried.

"Dwi'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod y ffordd mae fêps yn cael eu hyrwyddo - y blychau lliwgar a'r enwau sydd o bosib wedi eu hanelu at blant a phobl ifanc," meddai.

"Mae hynny'n anghywir ac rydym eisiau gwneud yn siŵr, yn ogystal â bod yn genedl di-ysmygu, nad yw plant a phobl ifanc yn dechrau fêpio.

"Mae fêpio yn chwarae rôl yn y broses o stopio ysmygu i oedolion, ond mae'r ymgynghoriad hwn am atal plant a phobl ifanc rhag fêpio yn y lle cyntaf."

Mae ffigyrau'n dangos bod tua 20% o blant rhwng 11 a 17 ym Mhrydain wedi trio fêps, yn ôl ymchwil gan elusen Action on Smoking and Health.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni bod lliwiau a brandio fêps yn arwain at eu defnydd ymysg pobl ifanc.

"Amddiffyn plant rhag marchnata niweidiol fêps yw'r peth cywir i ei wneud," meddai Hazel Cheeseman.

"Mae brandio deniadol, lliwgar a delweddau wedi gyrru apêl fêps i blant ac yn arwain at gynnydd yn eu defnydd."

Mae ymchwil yn dangos bod mwy na hanner y plant a phobl ifanc â diddordeb mewn trio fêps yn eu blychau presennol, ond roedd hynny wedi gostwng i 38% gyda'r blychau du, gwyn a llwyd.

Cafodd 2,770 o blant eu holi fel rhan o waith ymchwil gan UCL a King's College Llundain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.