‘Rhan o’r teulu’: Pryderon ffermwyr yng Ngwynedd ar ôl i sawl ci gweithio fynd ar goll

‘Rhan o’r teulu’: Pryderon ffermwyr yng Ngwynedd ar ôl i sawl ci gweithio fynd ar goll

Mae ffermwyr yng Ngwynedd wedi codi pryderon ar ôl i sawl ci gweithio fynd ar goll yn yr ardal dros yr wythnosau diwethaf.

Mae ci defaid saith oed o’r enw Turbo wedi bod ar goll ers diwedd mis Mehefin ar ôl diflannu o’i gartref ar Fferm Berthaur yn Llangwnnadl, Pen Llŷn.

Dywedodd ei berchennog, Elen Williams, ei bod yn credu bod rhywun wedi ei ddwyn oddi ar y fferm, gan na fyddai ci mor brofiadol yn crwydro'n bell.

Mae llwybr cyhoeddus yn croesi caeau'r fferm, ac yn ôl Ms Williams, mae nifer y bobl sy'n defnyddio'r llwybr wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Disgrifiodd Turbo fel ci cyfeillgar a fyddai'n aml yn mynd at gerddwyr ar y llwybr a Thraeth Penllech gerllaw, ond y byddai bob amser yn dychwelyd adref.

"Nos Wener 26 Mehefin, roeddan ni ar y silage, felly doedd y ci ddim yn gweithio," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fi oedd yn rhoi bwyd iddyn nhw a nesi sylwi bod o ddim wedi dod yn ôl.

"Weithia’ ella fysa fo’n gallu bod yn hwyr, ond am ryw reswm neshi jyst cael y teimlad - y gut feeling ‘na - bod o ddim am ddod yn ôl. 

"Mae ‘na rywun wedi mynd â hwn."

Image
Disgwyl am Turbo
Mae Turbo wedi bod ar goll ers pythefnos

Dywedodd Ms Williams, sy’n byw ar y fferm gyda’i gŵr Dafydd a’u tri o blant ifanc, mai nid dyma'r tro cyntaf i Turbo ddiflannu. 

Tua mis ynghynt, cafodd ei gymryd gan ymwelwyr a oedd yn credu ei fod wedi mynd ar goll.

“Roedd twristiaid oedd yn amlwg yn newydd i’r ardal wedi mynd ag o’n ôl i’w holiday cottage a ‘di rhoi bath iddo fo achos bod o’n fudr, a meddwl bod nhw’n ei achub o,” meddai.

“Yn amlwg ddim yn dalld be’ oedd ci gweithio a bo’ nhw ‘di mynd a ci oddi ar cae ei hun.”

Image
Dafydd a Turbo
Yn ôl ei berchnogion, mae Turbo (dde) yn rhan bwysig o'r teulu a'r fferm

Dywedodd Ms Williams fod Turbo wedi'i hyfforddi ers pan oedd yn gi bach, ac yn gi gwaith profiadol oedd yn chwarae rhan allweddol ar y fferm.

Er ei fod yn gi gwaith, dywedodd ei fod yn rhan o’r teulu.

"Maen nhw'n weithwyr ond ‘da ni'n ffrindiau efo nhw, maen nhw'n rhan o'r clytwaith ar y ffarm," meddai.

"Mae'r plant a'r cŵn yr un fath jyst."

'Diffyg dealltwriaeth o rôl cŵn defaid'

Nid Turbo yw'r unig gi gweithio i ddiflannu yng Ngwynedd yn yr wythnosau diwethaf.

Wythnos yn union ar ôl iddo fynd ar goll, diflannodd ast o'r enw Storm o fferm Llinos a Gareth Owen yng Nghwm Cloch ym Meddgelert.

Wrth chwilio am Turbo ar Facebook, daeth Ms Williams ar draws llun o Storm drwy hap a damwain. 

Erbyn hynny, roedd y ci wedi cael ei hailenwi ac yn cael ei hysbysebu ar gyfer cartref newydd, ychydig dyddiau'n unig ar ôl iddi ddiflannu.

Yn ôl Ms Owen, roedd Storm wedi cyrraedd milfeddyg lleol cyn cael ei chymryd dan ofal y cyngor, ac yna i gartref maeth yn Sir y Fflint.

“Fysa’r ast byth yn mynd i grwydro, ond fedra i ddim deud efo llaw ar fy nghalon ei bod wedi ei dwyn,” meddai.

“Yr unig beth ydi bod hi wedi mynd, a bod ‘na bobl ella wedi gweld bod hi o gwmpas a meddwl bod nhw’n neud y peth iawn yn mynd â hi.

Image
Llinos a Gareth Owen
Llinos a Gareth Owen, perchnogion Storm

"Ond os 'sa nhw wedi defnyddio dipyn o synnwyr cyffredin a mynd i chwilio am y ffermwr yn gyntaf, sa fo wedi hwyluso lot i ni.

"Be’ ma’ nhw'n neud ydi ma’ nhw'n meddwl eu bod nhw'n helpu, ond be’ ma’ nhw'n neud ydi achosi mwy o broblema’ yn y pen draw."

Dywedodd Ms Owen fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith ymwelwyr â chefn gwlad.

"Dydi pobl mewn dinas neu dref ddim yn ymwybodol o sut mae cŵn defaid a ffermwyr yn gweithio," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod angen addysgu dipyn bach mwy ar sut mae bywyd ffarm yn cael ei redag."

Image
Storm
Storm y ci Huntaway sy'n gweithio ar Fferm Cwm Cloch

Mae Ms Williams yn cytuno bod diffyg dealltwriaeth o rôl cŵn defaid yn rhan o'r broblem.

“Dydyn nhw’m yn dalld eu gwerth nhw na faint o ffrindia’ wyt ti hefo nhw mewn ffordd wahanol i gi sy’n isda ar y soffa efo chdi,” meddai. 

“Achos mae’r berthynas ti’n goro ei chael efo ci defaid sy’n gweithio, er mwyn i chdi allu trustio fo i neud y gwaith ‘na, yn flynyddoedd o waith.”

Ychwanegodd: “Mae o fatha rhywun yn dwyn rhan o dy deulu di. 

“Dydi o ddim yn deimlad neis.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.