Sir Conwy: Darganfod corff dyn 21 oed mewn llyn

Llyn Geirionydd

Mae corff dyn 21 oed wedi cael ei ganfod mewn llyn yn Sir Conwy.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw yn dilyn digwyddiad yn Llyn Geirionydd am 21.17 nos Fercher.

Cafodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, tîm achub mynydd a thîm chwilio tanddwr hefyd eu galw i’r lleoliad.

Fe gafodd corff dyn 21 oed ei dynnu allan o’r dŵr.

Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael gwybod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.