'Cymru wedi colli un o'i heiconau mwyaf': Y gantores Bonnie Tyler wedi marw yn 75 oed
Mae’r gantores fyd enwog o Gymru, Bonnie Tyler, wedi marw yn 75 oed.
Roedd Bonnie Tyler, a gafodd ei geni yn Gaynor Hopkins, ym mhentref Sgiwen ger Castell-nedd, yn un o leisiau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth bop Prydain.
Daeth yn enwog ledled y byd am ganeuon fel 'Total Eclipse of the Heart’, ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.
Dywedodd datganiad ar wefan y gantores fore Iau: “Mae’n torri calonnau teulu a thîm Bonnie i gyhoeddi ei bod wedi ein gadael yn annisgwyl neithiwr mewn ysbyty ym Mhortiwgal o ganlyniad i salwch yr oedd yn cael ei thrin amdano.
“Byddwn yn rhannu datganiad ehangach yn y man ond nawr, hoffwn ofyn am breifatrwydd tra ein bod yn ymdopi â’r drasiedi hwn.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "drist iawn clywed am farwolaeth Bonnie Tyler".
"Mae Cymru wedi colli un o'i heiconau mwyaf, a ddaeth â llawenydd i gynulleidfaoedd ledled y byd drwy ei cherddoriaeth," meddai.
"Rwy'n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf at ei theulu, ei ffrindiau a'i chefnogwyr.”
Dywedodd y cyflwynydd radio Owen Money wrth y BBC iddo ei hadnabod ers cyn iddi fod yn enwog, ar ddiwedd y 60au pan oedd hi’n dechrau arni yn Abertawe.
“Dw i mewn sioc, alla i ddim credu’r peth. Roedd hi’n ffan enfawr o fy sioe i, ac roeddwn i’n ffan enfawr ohoni hithau," meddai.
“Nid ffrindiau yn unig oedden ni, roedden ni’n ffans o’n gilydd. Roedd hi’n dal yn enfawr yn Ewrop, yn yr Almaen ac yn yr Iseldiroedd. Roedd hi mor dda. Mae hi’n eicon Cymreig.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru, elusen oedd yn cael ei chefnogi gan Bonnie Tyler, fod y gantores wedi “dod â llawenydd” pan ymwelodd â’i phencadlys yn Llanelli yn gynharach eleni.
Dywedodd yr elusen: “Fe wnaeth Bonnie gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru am flynyddoedd lawer, gan ein helpu i wneud gwahaniaeth parhaol i gleifion ar draws Cymru.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am yr amser a’r egni a rannodd gyda ni. Roedd hi'n eicon byd-eang oedd yn angerddol dros Gymru a’i phobl.
“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Bonnie, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu.”
Gwobrau
Cafodd Bonnie Tyler ei magu gyda chariad at gerddoriaeth, ac fe gafodd ei darganfod gan y sgowt talent Roger Bell mewn clwb yn Abertawe.
Yn 1983, fe gyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ rif un yn y siartiau, gan ddod yn un o ganeuon mwyaf adnabyddus yr 1980au.
Roedd ganddi bedair cân arall yn y deg uchaf, gan gynnwys ‘It’s A Heartache’ a ‘Holding Out For A Hero’.
Yn ystod ei gyrfa, cafodd ei henwebu deirgwaith am wobrau Grammy a Brit.
Fe wnaeth hefyd gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth Eurovision yn 2013.
Yn 2022, cafodd ei phenodi’n MBE ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i fyd cerddoriaeth.
Yn gynharach eleni, fe gyrhaeddodd ‘Total Eclipse of the Heart’ garreg filltir o biliwn o ffrydiau digidol ar Spotify.
Roedd Bonnie Tyler yn byw yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal.
Cafodd ei chludo i ysbyty yn Faro ym mis Mai ar gyfer llawdriniaeth frys ar ei choluddyn, cyn cael ei rhoi mewn coma gan feddygon i’w helpu i wella.
Fe ddaeth allan o’r coma yn ddiweddarach, ond roedd yn parhau’n ddifrifol wael mewn uned gofal dwys..