Gwaith i atal ‘dirywiad parhaus’ pont hanesyddol ger Llansannan
Mae gwaith wedi ei gymeradwyo i atal “dirywiad parhaus” pont hanesyddol ger Llansannan yn Sir Conwy.
Bydd y gwaith yn digwydd i gryfhau ac atgyweirio pont hanesyddol restredig Gradd II Pont Pengwern yng nghefn gwlad Conwy ar ôl i gynghorwyr gefnogi’r cynllun yn unfrydol.
Mae’r bont, sy’n cario'r B5382 dros isafon i'r Afon Aled rhwng Llangernyw a Dinbych, yn dyddio i 1827.
Mae wedi dirywio ar ôl i un o’r waliau ddymchwel.
Cafodd strwythur cynnal dros dro o fagiau tywod ei osod ym mis Ionawr 2025 er mwyn caniatáu i’r ffordd ailagor.
Mae’r gwaith sydd wedi’i gymeradwyo yn cynnwys growtio strwythur mewnol y bont, ac ychwanegu slab concrit gyda haen atal dŵr.
Bydd rhannau o’r gwaith carreg sydd wedi chwyddo hefyd yn cael eu hailadeiladu, bydd waliau parapet yn cael eu hailgodi, a bydd mesurau diogelu rhag erydiad yn cael eu gosod yng nghwrs yr afon o dan y bont.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyo cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer atgyweirio’r bont mewn cyfarfod ym mhencadlys yr awdurdod yng Nghoed Pella ddydd Mercher.
Fe wnaeth y Cynghorydd Gwennol Ellis gynnig cymeradwyo’r cais, fe wnaeth y Cynghorydd Alan Hunter eilio’r cynnig, ac fe wnaeth y pwyllgor bleidleisio’n unfrydol o blaid.
Gan fod Pont Pengwern yn adeilad rhestredig, bydd y cais nawr yn cael ei gyfeirio at Cadw i benderfynu a ddylai Llywodraeth Cymru wneud y penderfyniad.
Os na fydd y cais yn cael ei alw i mewn, bydd swyddogion cynllunio yn rhoi’r cydsyniad ffurfiol o dan bwerau dirprwyedig.
