Traeth De Aberllydan yn Sir Benfro wedi ei enwi’n draeth gorau Cymru

Traeth Aberllydan

Mae traeth De Aberllydan yn Sir Benfro wedi ei enwi’n draeth gorau Cymru gan The Times a The Sunday Times.

Mae’r traeth yn un o wyth yng Nghymru sydd wedi eu cynnwys ar restr flynyddol y papurau o 50 traeth gorau’r DU, a cafodd ei chyhoeddi ddydd Llun.

Dyma’r 18fed tro i’r rhestr gael ei chyhoeddi, yn dilyn arolwg pum wythnos a thaith 4,307 milltir i archwilio 607 o draethau.

Wrth ddisgrifio De Aberllydan, dywedodd prif awdur teithio The Times a The Sunday Times, Chris Haslam: “Mae’r tywod yn yr enghraifft berffaith hon o draeth yn Sir Benfro mor feddal fel eich bod yn suddo hyd at eich fferau wrth gamu oddi ar y llwybr.

“Mae ganddo ddŵr clir fel grisial, pyllau creigiog y gallwch eu defnyddio fel tybiau poeth os yw’r haul a’r llanw’n iawn, ac, fel sy'n wir am y traethau gorau i gyd, nant yn rhedeg ar draws y pen pellaf.”

Ychwanegodd fod fan hufen iâ ar ben y clogwyn fel arfer, gyda Chapel Sant Gofan tua milltir i’r gorllewin ar hyd llwybr yr arfordir.

Y traethau o Gymru ar y rhestr

Image
Traeth Llanddwyn, Porthor a Llangrannog
Mae Traethau Llanddwyn, Porthor a Llangrannog hefyd ar y rhestr

Dyma’r wyth traeth yng Nghymru sydd wedi eu cynnwys:

  • Traeth De Aberllydan, Sir Benfro
  • Traeth Llanddwyn, Niwbwrch, Ynys Môn
  • Traeth Porthor, Gwynedd
  • Traeth Llangrannog, Ceredigion
  • Traeth Mwnt, Ceredigion
  • Traeth Abereiddi, Sir Benfro
  • Traeth Marloes, Sir Benfro
  • Bae’r Tri Chlogwyn, Gŵyr

Cafodd pob traeth ei asesu yn erbyn 12 maen prawf, gan gynnwys glendid, hygyrchedd, parcio, darpariaeth achubwyr bywyd, cyflwr y tai bach a’r cawodydd, pa mor addas yw’r traeth i gŵn ac ansawdd y dŵr.

Mae maen prawf newydd wedi ei ychwanegu eleni sy’n ystyried cyfraniad y gymuned leol at y traeth.

Dywedodd Chris Haslam ei fod “erioed wedi gweld ein glannau’n edrych mor brydferth” ar ôl cwblhau ei daith flynyddol o amgylch arfordiroedd Prydain a Gogledd Iwerddon.

“Byddai’n drueni gwastraffu’r dyddiau heulog hynny yn eistedd mewn meysydd awyr, yn ciwio wrth y peiriannau gwirio pasbortau ac yn ymladd am welyau haul,” meddai.

“Gallwch wneud hynny’r flwyddyn nesaf. Eleni, rhowch eich tywel ar draeth yn y DU.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.