ITV i werthu talp mawr o'i fusnes i Sky am £1.6 biliwn

Sky

Yn dilyn misoedd o drafodaethau, mae'r cwmni darlledu ITV wedi cytuno i werthu talp mawr o'i fusnes i Sky am hyd at £1.6 biliwn.

Byddai'r gwerthiant yn creu'r cwmni darlledu masnachol mwyaf ym Mhrydain, unwaith y bydd wedi ei gytuno'n derfynol.

Y bwriad fyddai creu gwasanaeth ffrydio Prydeinig fydd yn gallu cystadlu gyda'r cewri rhyngwladol Netflix ac Amazon Prime yn y pen draw.

Mae'r cytundeb yn cynnwys gwerthiant platfform ITVX, ond nid yw'n cynnwys stiwdios ITV.

Ni fyddai'r gynulleidfa'n gweld newid sylweddol i arwly ITV o raglenni, am y tro.

Mewn datganiad fore dydd Llun, dywedodd Sky y byddai "ymrwymiadau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i gael eu bodloni'n llawn" gan ITV yn dilyn y cytundeb.

'Maint yn bwysicach nag erioed'

Aeth y datganiad yn ei flaen i ddweud bod "marchnad gyfryngau'r DU yn mynd trwy drawsnewidiad dwys a chyflym, ac wrth i'r gystadleuaeth am gynulleidfaoedd ddwysáu, mae maint yn bwysicach nag erioed er mwyn cystadlu â chwmnïau ffrydio enfawr byd-eang a YouTube yn y DU. 

"Gyda'i gilydd, bydd Sky ac ITV Media & Entertainment yn cyfuno darlledu rhad ac am ddim, gwasanaethau ffrydio sydd wedi eu hariannu gan hysbysebu a theledu tanysgrifio, ynghyd â phortffolio ehangach Sky o wasanaethau band eang, symudol a busnes."

Ychwanegodd: "Mae amrywiaeth y ffrydiau refeniw yn y corff cyfunol yn darparu model busnes gwydn a pharhaol a fydd yn sail i'w lwyddiant hirdymor.

"Ar ôl cwblhau'r broses, bydd sianeli ITV ac ITVX yn parhau i fod yn rhai rhad ac am ddim, a bydd yr ymrwymiadau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i gael eu bodloni'n llawn."

Llun: SKY

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.