Ehangu cynllun adolygu achosion trais rhywiol ar draws Cymru a Lloegr
Bydd gan ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol ar draws Cymru a Lloegr, sy'n wynebu'r posibilrwydd y caiff eu hachosion eu gollwng, yr hawl i ofyn am adolygiad cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Mae'r cynllun 'Hawl Dioddefwyr i Adolygiad' (VRR) cynnar yn cael ei ehangu ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus, gan gynnwys yng Nghymru, gan roi "ail gyfle am gyfiawnder" mewn achosion a allai fel arall gael eu gollwng.
Mae'r broses hon yn golygu y bydd dioddefwyr troseddau rhywiol yn gallu herio cynigion i atal erlyniad cyn gwneud penderfyniad anwrthdroadwy i beidio â chyflwyno tystiolaeth.
Dywedodd y Twrnai Cyffredinol, Ellie Reeves: "Mae trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol yn achosi niwed dinistriol a pharhaol, ac mae pob dioddefwr dewr sy'n camu ymlaen yn haeddu gwybod y caiff eu hachos ei drin gydag urddas.
"Trais yn erbyn menywod a merched yw fy mhrif flaenoriaeth, ac mae ehangu'r cynllun hawl dioddefwyr i adolygiad yn garreg filltir bwysig.
"Am y tro cyntaf, bydd gan ddioddefwyr trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol ar draws Lloegr a Chymru gyfle i gael eu hachos wedi'i adolygu, lle maent yn gymwys, gan roi ail gyfle iddynt am gyfiawnder a rheolaeth wirioneddol ar y pwynt mwyaf tyngedfennol yn eu hachos.”
Cafodd y cynllun ei dreialu gyntaf flwyddyn yn ôl yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac yna ei ehangu i dair ardal CPS arall – yng Nghymru, gogledd orllewin Lloegr, Swydd Efrog a Glannau Humber.
Mae'n rhoi cyfle i ddioddefwyr gael ei hachos ei adolygu gan erlynydd gwahanol cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol, sy'n golygu bod y cyfle i barhau â'r achos yn dal i fod ar gael.
Moment nodedig
Cyn y system VRR gynnar, dim ond ar ôl gwneud penderfyniad terfynol i beidio â chynnig tystiolaeth y gellid cynnal adolygiad.
Yn yr achosion hynny, yr unig ganlyniad o adolygiad llwyddiannus allai fod yn esboniad ac ymddiheuriad.
Dywedodd yr ymgyrchydd Jade Blue McCrossen-Nethercott, a wnaeth siwio'r CPS yn llwyddiannus ar ôl i'w hachos treisio gael ei ollwng, ei fod yn "foment nodedig i ddioddefwyr a goroeswyr".
Dywedodd: "I lawer o ddioddefwyr, gall y penderfyniad i ddod ag achos i ben deimlo'n derfynol, gan adael cwestiynau heb eu hateb ac ychydig o gyfleoedd i herio'r canlyniad.
“Fe wnaeth fy mhrofiad fy hun ddangos i mi mor ddinistriol y gall fod pan ddaw adolygiad yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth, hyd yn oed pan nodir camgymeriadau yn ddiweddarach.”
Dywedodd Siobhan Blake, arweinydd cenedlaethol y CPS ar gyfer achosion trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol: “Mae ein herlynwyr arbenigol fel arfer yn gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf, ond pan nad ydym yn gwneud hynny – a bod achos a allai fod wedi parhau yn cael ei atal – ni all ymddiheuriad yn unig deimlo fel cyfiawnder.”