Treth dwristiaeth: Cefnogaeth a phryder wrth i gynghorau bwyso a mesur
Treth dwristiaeth: Cefnogaeth a phryder wrth i gynghorau bwyso a mesur
Mae cynghorau ledled Cymru yn wynebu'r penderfyniad a ddylid cyflwyno treth dwristiaeth yn eu hardaloedd - pwnc sy’n hollti barn ymysg busnesau, trigolion ac ymwelwyr.
O 2027 ymlaen, fe fydd gan awdurdodau lleol y dewis o godi tâl ychwanegol ar bobl sy'n aros dros nos mewn llety twristiaeth.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr incwm yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol, gan helpu i ymdopi â rhai o'r pwysau sy'n dod yn sgil twristiaeth.
Ond wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae rhai yn y diwydiant yn pryderu y gallai'r dreth wneud ardaloedd yng Nghymru yn llai deniadol fel cyrchfan gwyliau.
Bydd ymwelwyr sy'n aros mewn carafanau, gwestai, gwely a brecwast neu lety hunanarlwyo yn talu £1.30 y person y noson, ynghyd â TAW, os bydd cyngor yn dewis cyflwyno'r dreth. Bydd y tâl yn 80c y person y noson, ynghyd â TAW, mewn hosteli a meysydd gwersylla.
Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi dweud y bydd yn cyflwyno'r dreth, tra bod Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn wedi dechrau ymgynghori â thrigolion a busnesau.
Cymunedau o dan bwysau
Mae gogledd-orllewin Cymru yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ond yn ôl rhai, mae’n achosi problemau yn lleol.
Mae Bedwyr ap Gwyn, sy'n rhedeg cwmni gweithgareddau awyr agored, yn dweud bod twristiaeth yn hanfodol i economi'r ardal, ond bod trigolion hefyd yn byw gyda'r pwysau sy'n dod yn ei sgil.
"Mae'r effaith ar bobl leol, ar draffig a lle parcio yn gallu bod yn broblematig iawn," meddai.
Yn ystod penwythnosau prysur yr haf, mae ffyrdd yn tagu, meysydd parcio yn llawn a chwynion am sbwriel mewn rhai ardaloedd poblogaidd.
Mae Bedwyr yn cefnogi'r dreth, gan ddweud ei bod yn gyffredin mewn llawer o gyrchfannau Ewropeaidd.
"Mae'n swm bach iawn o arian. Dwi wedi talu treth dwristiaeth mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd, a galla i ddim gweld y bydd yn atal pobl rhag dod i Gymru.
“Os bydd o yn cael ei wario yn y ffordd gywir ac er budd y gymuned leol, sydd wrth gwrs yn ei dro yn arwain at fudd i dwristiaeth hefyd, allai ddim gweld unrhyw anfantais iddo i ddeud y gwir.”
‘Mae costau byw yn gwasgu’
Ond mae Geraint Rowlands, sy'n rhedeg maes carafanau ger Dolgellau, yn dweud bod llawer o fusnesau eisoes yn wynebu cyfnod anodd.
"Mae costau byw yn gwasgu ar bobl yn barod," meddai.
“Ac mae gwyliau ar faes carafanau yn wyliau cymharol rhad, wrach mai dyna’r cwbl mae pobl yn gallu fforddio, a dyna un peth dwi’n gweld yn annheg am y dreth yma, ydy bod o’n mynd i hitio’r bobol hynny.”
Mae hefyd yn amau a fydd y cynllun yn cyflawni ei nod.
“Dwi’m yn meddwl bydd o’n helpu dim ar y problemau sy’n bod yn barod. Achos fydd y problemau parcio, y traffig, y toilede, fydd rheiny dal yna, os rwbeth fydd o’n neud o falle’n waeth.
“Fydd gennych chi fwy o bobol yn penderfynu, os da chi’n byw ym Manceinion, Lerpwl, Birmingham - ‘o nawn ni jyst mynd am y dydd’ yn hytrach na mynd i aros - wedyn mi fydd gennych chi fwy o draffig yn mynd nôl ac ymlaen, mwy o bobol yn gadael sbwriel.”
Mae Geraint yn poeni am yr effaith ar ei fusnes os na fydd pob sir yng Nghymru yn cyflwyno’r dreth.
“Os di Gwynedd yn neud o a bod Powys ddim, er enghraifft neu Sir Ddinbych ddim. Ma’ bobol yn mynd i feddwl, ‘a i dros y ffin i’r sir yna’. Tasa fo’n dod ar lefel cenedlaethol, o leia fysa na ddim gwahaniaethu wedyn de.
“Ma egwyddor y peth yn grêt ond mae sut mae’n mynd i weithio o ddydd i ddydd ac i ni weinyddu fo fel y bobol sydd yn y sector, mae’r gwaith gweinyddu mynd i fod yn ychwanegol a da ni’m yn siwr ar hyn o bryd sut mae’n mynd i weithio.”
Yn ystod ymgynghoriad diweddar yng Nghricieth, a gafodd ei gynnal gan Gyngor Gwynedd, cododd nifer o berchnogion busnesau bryderon tebyg, gan ddweud bod archebion eisoes yn is ac y gallai'r dreth effeithio ar alw.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y byddai’r arian sy’n cael ei ail-fuddsoddi mewn pethau fel traethau, parciau a chanol trefi, atyniadau diwylliannol, twristiaeth fwy cynaliadwy, a chefnogi'r Gymraeg yn y gymuned.
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai'r dreth godi tua £30 miliwn y flwyddyn pe bai pob awdurdod lleol yn ei chyflwyno.
Mewn arolwg o fwy na 650 o ymwelwyr â Gwynedd, dywedodd tua dwy ran o dair na fyddai ffi o £1.30 y noson yn newid eu cynlluniau gwyliau. Dywedodd tua thraean y gallai'r gost ychwanegol ddylanwadu ar eu penderfyniad.
Yn ôl Dr ap Gwilym, gallai'r incwm gael ei ddefnyddio i wella seilwaith twristiaeth, cynnal cyfleusterau cyhoeddus a chefnogi diwylliant a threftadaeth leol.
Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar holi rhai o ymwelwyr yn Abersoch - gyda nifer yn dweud y byddant yn hapus i dalu’r gost ychwanegol.
"Dyw £1.30 y noson ddim yn llawer, ac os yw'n helpu'r gymuned, byddwn ni'n hapus i'w dalu," meddai un ymwelydd.
“Os yw'n mynd yn ôl i'r gymuned ac os yw'n helpu Abersoch, yr ydym yn ei garu, byddem yn ei dalu”, yn ôl un ymwelydd arall.
Y camau nesaf
Os bydd cynghorau yn penderfynu cyflwyno'r dreth dwristiaeth, bydd ymwelwyr yn dechrau talu'r dreth o 2027 ymlaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ar y mater ar hyn o bryd. Rydym yn annog unrhyw un sydd â sylwadau neu bryderon i’w cyflwyno trwy lenwi’r holiadur sydd ar gael ar wefan y Cyngor neu mae copïau papur ar gael yn llyfrgelloedd y sir a thair prif swyddfa’r Cyngor.
“Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn ofalus wrth i aelodau etholedig Cyngor Gwynedd wneud penderfyniad yn yr hydref eleni naill ai i fabwysiadu’r Ardoll neu beidio.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i refeniw o'r ardoll gael ei wario ar seilwaith a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth sy'n helpu i wneud Cymru yn gyrchfan o'r radd uchaf.
"Rhaid i Awdurdodau Lleol adrodd yn flynyddol sut maent wedi defnyddio refeniw ardoll ymwelwyr, gan amlinellu pa brosiectau a gweithgareddau sydd wedi'u hariannu."
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Croeso am dâl? Ar S4C nos Lun am 20:00. Neu i’w gael i wylio rŵan ar S4C Clic, BBC iPlayer, ac YouTube.