Cynllun prawf am dyrbinau gwynt uchel oddi ar arfordir Sir Benfro gam yn agosach

Fferm wynt

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi Trwydded Forol i gwmni ar gyfer prosiect fferm wynt arnofiol yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae’r prosiect gan Llŷr Floating Wind Limited yn gynllun prawf arfaethedig fydd 35km oddi ar arfordir Pentir Linney yn ne-orllewin y sir.

Y nod yn ôl CNC yw "datblygu a phrofi'r dechnoleg newydd hon”.

Mae’r cynllun prawf yn cynnwys hyd at 10 tyrbin gydag uchder o 300m uwchben lefel y môr gyda phlatfformau arnofiol, llinellau angori ac angorau cysylltiedig.

Gall hyd at ddau gebl, tua 50km o hyd, ddod â phŵer i'r lan ar draeth Freshwater West yn ôl CNC. 

Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Thrwyddedu a Gweithrediadau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru: "Yma yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, mae cyfle unigryw i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar draws ystod o sectorau a diwydiannau. 

"Mae hyn yn cynnwys defnyddio ein pwerau trwyddedu i gefnogi Cymru wrth iddi newid i ddefnyddio ynni glân.

“Fel rheoleiddiwr a chynghorydd, rydyn ni’n sicrhau bod prosiectau ynni yn cael eu datblygu’n gynaliadwy, gan barchu’r amgylchedd a chymunedau lleol." 

Ychwanegodd: "Ar yr un pryd, rydyn ni’n chwarae rhan hanfodol wrth alluogi arloesi o ran ynni gwyrdd - gan helpu prosiectau i symud ymlaen yn ddiogel ac yn gyfrifol.

“Mae gan Gymru botensial enfawr fel arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r manteision a allai godi o ganlyniad i’r prosiectau hyn wrth i ni symud tuag at dargedau sero net.”

Dywedodd grŵp Ffrindiau’r Arfordir Penfro eu bod nhw’n cefnogi amcanion y datblygiad ar y cyfan.

Dywedodd llefarydd: “Rydym yn cefnogi amcanion y datblygiad hwn yn fras, gan gydnabod y bydd ynni gwynt yn cyfrannu at darged Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o gyrraedd sero net erbyn 2050, ac y bydd gan fferm wynt arnofiol ar y môr lai o effaith weledol o'i chymharu â ffermydd gwynt sy'n agosach at y lan."

Ychwanegodd y grŵp eu bod nhw wedi awgrymu sefydlu cronfa gymunedol er mwyn “sicrhau bod y cymunedau yr effeithir fwyaf arnynt gan y cyfnod adeiladu trwm (yn enwedig Penfro, lle mae'n rhaid i'r holl draffig fynd drwyddo ac o'i gwmpas) yn elwa'n ariannol ar y prosiect”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.