Newyddion S4C

Teyrngedau i'r cyn-chwaraewr rygbi Owain Williams

13/09/2021
Owain Williams - Huw Evans Images

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-chwaraewr rygbi Owain Williams sydd wedi marw yn 56 oed.

Bu farw'r cyn-chwaraewr rheng-ôl yn dilyn cyfnod hir o salwch gyda chanser.

Ymddangosodd Williams 221 o weithiau dros Gaerdydd, gan ennill cap dros ei wlad mewn gêm yn erbyn Namibia ym Mehefin 1990.

Roedd Williams hefyd yn gapten ar dîm rygbi saith bob ochr Cymru.

Mae un o'i feibion, Teddy, bellach yn rhan o garfan bresennol Rygbi Caerdydd.

Roedd brawd Owain Williams, Gareth, hefyd yn chwaraewr rygbi gan chwarae dros Gymru a'r Llewod.

Bu farw Gareth yn 2018 o ganlyniad i gyflwr niwrolegol prin.

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Rygbi Caerdydd: "Gyda thristwch mawr, rydym wedi dod i wybod am farwolaeth Owain Williams yn dilyn brwydr hir gyda chanser.

"Mae ein meddyliau twymgalon gyda Teddy a'r teulu Williams".

Mae nifer o gyn-chwaraewyr rygbi hefyd wedi talu teyrnged iddo.

Dywedodd Jonathan Davies, a chwaraeodd gyda Williams: "Newyddion hynod drasig.  Am chwaraewr, dim ond wedi ei wirioneddol werthfawrogi gan y dynion a chwaraeodd gydag e.

"Darllenydd gwych o'r gêm ac yn anhygoel mewn amgylchedd carfan gyda'i feddwl chwim.  Mae fy ngweddïau a chydymdeimladau gydag Angie a'r bechgyn".

Ychwanegodd Emyr Lewis: "Newyddion mor drist.  Cymeriad a hanner ar ac oddi ar y cae a chwaraewr rhyfeddol.  Roeddwn yn caru bod yn ei gwmni ac fe ychwanegodd ei dynnu coes at fy mwynhad a'm mhrofiad yn fawr.

"Mae fy nghydymdeimladau dwysaf gyda'r teulu".

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.