Galw am ymchwiliad allanol i wariant £4m bwrdd iechyd y gogledd ar ymchwil iechyd meddwl

Newyddion S4C
Arwydd bwrdd iechyd Betsi

Mae galwadau am ymchwiliad allanol ar ôl i adroddiad gasglu fod y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru wedi gwario dros £4m ar ymchwil iechyd meddwl dros 14 mlynedd heb allu dangos budd uniongyrchol i bobl yr ardal.

Casglodd adroddiad mewnol a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) fod eu hadran iechyd meddwl wedi bod yn ariannu canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ers 2012 heb adolygiad ffurfiol o'r cytundeb, gyda chostau'n cynyddu.

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud nad oes "unrhyw awgrym o ymddygiad amhriodol".

Mae adroddiad ar wahân a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor (PB) hefyd yn nodi nad oes unrhyw dystiolaeth o dwyll na chamymddwyn.

Casgliadau'r Bwrdd Iechyd

Yn 2012, llofnodwyd cytundeb pum mlynedd rhwng BIPBC a Phrifysgol Bangor i greu Canolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas (CIMaCh).

Mae adroddiad mewnol i BIPBC o Ebrill 2026 sydd wedi ei weld gan Newyddion S4C, yn dweud nad oedd y bwrdd iechyd wedi adolygu'r cytundeb ar ôl 5 mlynedd ac erbyn Medi 2025 roedd £4,292,733 wedi ei dalu i'r brifysgol. 

Mae'r adolygiad ymgynghorol yn canfod nad ydy’r bwrdd iechyd wedi gallu dangos "gwerth am arian" na "budd uniongyrchol i boblogaeth gogledd Cymru".

"Nid yw'n glir pa wasanaethau y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu derbyn ac yn talu amdanynt, a pha mor fuddiol ydyw i boblogaeth Gogledd Cymru," meddai'r adroddiad.

Mae'n canfod nad oes tystiolaeth mewn sawl maes bod cyfarwyddiadau ariannol y bwrdd iechyd wedi'u dilyn.

Cafodd taliadau bychain eu hawdurdodi pan ddylai taliadau blynyddol, mwy, fod wedi'u gwneud fyddai wedi bod angen rhagor o "gymeradwyaeth a chraffu."

Roedd nifer y swyddi a ariannwyd gan y bwrdd iechyd yn y ganolfan ymchwil wedi cynyddu o ddau i bedwar "heb gyfiawnhad amlwg".

Nid oedd rhai staff BIPBC a oedd yn gweithio gyda'r ganolfan ymchwil wedi gwneud datganiadau o fuddiant ac felly roedd "risg o wrthdaro buddiannau" yn ôl yr adroddiad.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu ar ôl cwestiynu gan David Graves, a dderbyniodd daliad ac ymddiheuriad gan y bwrdd iechyd yn 2023 ar ôl brwydr 10 mlynedd dros driniaeth a gafodd ei fam gan wasanaethau iechyd meddwl.

Mae Mr Graves yn disgrifio cyllido’r ganolfan ymchwil fel "llanast".

"Fe wnaethon ni adrodd am hyn dair blynedd yn ôl. Y peth mwyaf pryderus yw nifer y meysydd lle nad yw'r archwilydd yn gallu rhoi sicrwydd."

"Mae hyn yn arian yn gwaedu allan o'r GIG ac mae wedi bod ers 14 mlynedd."

Image
David Graves
David Graves

Casgliadau'r Brifysgol

Mae partneriaethau rhwng cyrff iechyd ac addysg uwch yn gyffredin ac yn cael eu hystyried yn bwysig i helpu byrddau iechyd i ddatblygu arbenigedd a denu neu gadw staff.

Mae canllawiau ar bartneriaethau o'r fath, a elwir yn Egwyddorion Follett, yn pwysleisio'r angen i'r cyrff gydweithio i sicrhau atebolrwydd.

Ym mis Mehefin 2025, roedd CIMaCh hefyd yn destun adroddiad mewnol ar wahân gan Brifysgol Bangor yn dilyn honiadau o dwyll.

Mae Newyddion S4C wedi gweld fersiwn wedi'i golygu sy'n dod i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o gamymddwyn na thwyll ar ran y ganolfan ymchwil na'r brifysgol.

Nododd adroddiad PB fod llythyr cytundeb pellach wedi bod yn 2017 rhwng PB a BIPBC a bod y cytundeb yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol tan 2022.

Roedd dros 100 o bapurau academaidd a chyhoeddiadau gan CIMaCh yn dangos allbwn ymchwil "cadarn", parhaodd adroddiad PB.

Dywedodd mai mater i'r bwrdd iechyd oedd ystyried a oedd yn briodol iddynt ariannu'r brifysgol fel y gwnaethant.

Roedd cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr CIMaCh o 2012, yr Athro Rob Poole, hefyd yn Seiciatrydd Clinigol Anrhydeddus yn BIPBC o dan y cytundeb tan iddo ymddeol ym mis Hydref 2025.

Dywedodd yr Athro Poole wrth Newyddion S4C nad oedd yn gwybod bod adolygiad BIPBC wedi digwydd, ond ei fod yn ystyried bod y canfyddiadau'n "hollol anghywir".

"Mae fy holl ymchwil helaeth o fudd uniongyrchol i boblogaeth Cymru, gan gynnwys y gwaith a ariennir yn allanol yn ne Asia yr ydym bellach yn ei efelychu yng Nghymru."

Dywedodd yr Athro Poole nad oedd yn cydnabod y ffigwr o £4m yn adroddiad BIPBC a bod CIMaCh yn cynhyrchu incwm gyda staff newydd yn cael eu cyllido o gronfeydd eraill. 

Image
Rob Poole
Yr Athro Rob Poole

'Camreolaeth ariannol'

Yn ôl adroddiad mewnol BIPBC, mae gwelliannau i’r trefniadau presennol wedi’u cyflwyno, ond nid yw’r cynigion yn mynd yn ddigon pell nac yn ystyried partneriaethau posibl eraill, meddai’r archwilwyr.

Dywed Geoff Ryall-Harvey o gorff cynrychioli cleifion, Llais, y dylai corff allanol ymdrin â’r mater.

“Nid yw adroddiad BIPBC yn rhoi bai ar unigolion, ond mae’n sôn am gamreolaeth ariannol ddifrifol,” meddai Mr Ryall-Harvey.

“Felly ni ddylai unrhyw un oedd yn rhan o’r gamreolaeth ariannol honno fod yn rhan o’r atebion.

“Mae angen ymchwiliad allanol. Rwy’n credu bod yr amser ar gyfer gweithredu mewnol wedi mynd.”

'Dim ymddygiad amhriodol'

Bydd adroddiad mewnol BIPBC yn cael ei ystyried gan ei bwyllgor archwilio.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer: “Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw awgrym o ymddygiad amhriodol” wrth gomisiynu gwaith yn CIMaCh. 

Dywedodd fod yr adolygiad wedi’i gomisynu i sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith, “fel sy’n arfer da.”

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu dull cynyddol gadarn o gomisiynu, ac rydym yn benderfynol o’u cryfhau ymhellach.” dywedodd Ms Shillabeer.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod CIMaCh yn cydnabod “pwysigrwydd llywodraethu cadarn a thryloyw.”

Doedd y ganolfan ymchwil ddim wedi yn cymryd rhan yn uniongyrchol ym mhroses adolygu fewnol BIPBC, meddai’r llefarydd.

“Mae’r Ganolfan yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio’n adeiladol gyda’r bwrdd iechyd wrth iddynt barhau i gynnal gweithgareddau sicrwydd pellach.” 

Oherwydd pryderon ynghylch perfformiad ehangach y bwrdd iechyd, dywedodd Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon y byddai'n cymryd rôl fwy uniongyrchol yn BIPBC.

Ond wrth ymateb i adroddiad mewnol BIPBC i CIMaCh, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Mater i'r bwrdd iechyd yw gweithredu ar ganfyddiadau'r archwiliad mewnol hwn. Wrth wneud hynny, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau yn y trefniadau llywodraethu ar gyfer y cyllid hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.