Troseddwr rhyw wedi achosi 'anhrefn' yn Rhuthun gyda'i alwadau 999

Robert Trevelyan

Cafodd troseddwr rhyw ei garcharu am achosi “anhrefn” mewn tref yn Sir Ddinbych ar ôl iddo wneud galwadau 999 dro ar ôl tro i’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans.

Fe wnaeth Robert Trevelyan, 39 oed o Lys Haulfryn, Rhuthun, gyfaddef y cyhuddiadau o gyfathrebu maleisus, ymosod ar ddwy blismones, ymosod ar ddyn, bod â chetamin yn ei feddiant, rhwystro llwybr stryd, a difrod troseddol i gar.

Cafodd dedfryd o 12 mis o garchar oedd wedi ei gohirio'n flaenorol am ymosodiad rhyw ar ddynes oedd ar fws ei gweithredu gan y barnwr sirol Gwyn Jones yn y llys yn Llandudno.

Fe gafodd ddedfryd o 32 wythnos arall dan glo am y troseddau newydd, gan gyfuno i wneud cyfanswm o 84 wythnos dan glo.

Fe dderbyniodd orchymyn ymddygiad troseddol am bedair blynedd hefyd.

Galwadau 999

Dywedodd James Neary ar ran yr erlyniad fod yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans wedi cael eu “gorlifo” gyda galwadau gan Trevelyan. 

Roedd wedi costio o leiaf £9,333 i’r gwasanaeth ambiwlans gyda 30 o alwadau a 16 o gerbydau wedi eu hanfon ato. 

Roedd 74 o alwadau brys wedi bod i'r heddlu ganddo hefyd.

Dywedodd Mr Neary fod Trevelyan, ar 14 Mehefin, wedi ffonio'r heddlu a honni bod car yn goryrru yn Rhuthun ac y byddai'n atal y traffig. 

Y diwrnod canlynol roedd wedi bod yn atal traffig yn y dref gan wahodd gyrwyr i ymladd, a dychryn y teithwyr yn y cerbydau hefyd.

Dywedodd David Jones ar ran yr amddiffyniad nad oedd Trevelyan, oedd yn feddw ar y pryd, wedi bwriadu poeri ar swyddog yr heddlu ar ôl cael ei chwistrellu gyda chwistrelliad “Captor”, ac nad oedd yn gwisgo esgidiau pan giciodd y swyddog. 

Ni chafodd unrhyw anafiadau eu hachosi, ychwanegodd.

Roedd ei gleient bellach yn edifar yr hyn yr oedd wedi ei wneud. 

“Os nad yw’n yfed mae’n unigolyn dymunol. Roedd ei holl droseddu pan oedd yn yfed,” meddai Mr Jones.

Effaith y troseddu

Dywedodd y Barnwr Jones wrth Trevelyan ei bod yn bwysig iddo ddeall effaith ei droseddu ar y gymuned wledig lle nad oedd llawer o swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd.

Cafodd ei ymddygiad ei ddisgrifio yn ystod y misoedd diwethaf fel un a achosodd “anhrefn” gyda galwadau “dirifedi” i’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans.

Bu’n rhaid i’r gwasanaethau brys fynd i'w gartref bron bob dydd oherwydd ei ymddygiad “di-hid”.

“Mae pwysau enfawr ar y gwasanaethau brys,” meddai'r Barnwr Jones. 

Dywedodd nad oedd y bil o £9,000 i drethdalwyr yn agos at y gwir ffigwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.