Amgueddfa Cymru i ymgynghori cyn unrhyw benderfyniad ar gau dros dro ar gyfer gwaith atgyweirio

Amgueddfa Cymru

Wedi sibrydion ar gyfryngau cymdeithasol y gallai'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd gau am bedair blynedd, mae’r corff wedi dweud na fyddai unrhyw benderfyniad o’r fath yn cael ei wneud heb ymgynghoriad.

Mewn datganiad, dywedodd Amgueddfa Cymru fod cynnal adeilad hanesyddol o faint ac oedran ei chartref yng Nghaerdydd yn "heriol".

Wrth i'r amgueddfa ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2027, dywedodd y corff eu bod yn "edrych ar opsiynau" i wella ac ailddatblygu'r adeilad.

Maen nhw'n dweud bod y cynlluniau ar "gyfnod cynnar" gyda’r nod o wella’r profiad i ymwelwyr, ond nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto.

Ychwanegodd y corff y byddai unrhyw gynlluniau i gau’r amgueddfa dros dro yn dibynnu ar arolygiad llawn ac ymgynghoriad gyda staff.

Daw ar ôl i'r amgueddfa gyhoeddi ddechrau mis Mehefin eu bod wedi penodi AHR a C.F. Møller Architects yn dîm dylunio ar gyfer y gwaith.

Bryd hynny, dywedodd y byddai'r gwaith cychwynnol yn cynnwys atgyweirio to'r amgueddfa, yn ogystal â gosod system larwm tân newydd.

Fis Chwefror 2025, caeodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am bum niwrnod "oherwydd materion cynnal a chadw’r adeilad a phryderon iechyd a diogelwch."

Yn 2024, daeth rhybudd y gallai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd orfod cau oherwydd bod ei gyflwr yn dirywio. 

Wedi hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £3.2m yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith atgyweirio i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn ystod y flwyddyn, fe ddiflannodd 144 o swyddi o fewn Amgueddfa Cymru, sy'n cynrychioli Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a hanner dwsinau o amgueddfeydd eraill.  

'Sicrhau'r adeilad am genedlaethau i ddod'

Mewn ymateb i'r sibrydion diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: "Mae cynnal adeilad hanesyddol o faint, oed a chymhlethdod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn heriol. 

"Gyda’r Amgueddfa yn agosáu at ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf, rydym yn edrych ar opsiynau i wella ac ailddatblygu i gynnal a chadw'r adeilad ac i wella'r profiad i’n hymwelwyr, gan sicrhau ei fod yn adeilad fydd yn gallu cael ei ddefnyddio am genedlaethau i ddod. 

"Mae’r cynlluniau cyffrous ar gyfnod cynnar ac yn ddibynnol ar sawl cam o gynlluniau busnes a fframwaith cynllunio felly ar hyn o bryd does ddim penderfyniadau wedi cael eu gwneud. 

"Byddai unrhyw benderfyniad bwriadol i gau adeilad yr Amgueddfa dros dro yn ddibynnol ar arolygiad llawn ac ymgynghoriad gyda’n staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ar gymuned ehangach, ac yn cael ei gadarnhau gan fwrdd yr ymddiriedolwyr."

Ychwanegodd y llefarydd: "Yn y cyfamser, rydym wedi penodi tîm dylunio sy’n golygu bod gwaith galluogi sydd angen cael ei wneud am resymau cynnal a chadw nawr yn gallu cael ei gwblhau. 

"Bydd opsiynau a chysyniadau ar gyfer y dyfodol yn cael eu harchwilio er mwyn rhoi’r Amgueddfa yn y lle gorau posib i fwrw ati gyda gwaith ehangach pe byddai cyllid yn cael ei sicrhau yn y dyfodol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.