'Unwaith mewn oes': Dinbych yn paratoi i groesawu sêr pêl-droed o Barcelona, Real Madrid a Bayern Munich

'Unwaith mewn oes': Dinbych yn paratoi i groesawu sêr pêl-droed o Barcelona, Real Madrid a Bayern Munich

O Kylian Mbappé i Erling Haaland, mae Pencampwriaeth Euro Dan-19 UEFA wedi bod yn llwyfan i rai o sêr pêl-droed ifanc amlycaf y gamp ddisgleirio dros y blynyddoedd diwethaf. A nos Sul, fe fydd y gystadleuaeth yn cyrraedd Dinbych.

Mae’r dref yn un o bedwar lleoliad sydd wedi’u dewis i gynnal gemau’r gystadleuaeth, gyda Wrecsam, Bangor a Chaernarfon. 

Fe fydd chwaraewyr o Real Madrid, Barcelona a Bayern Munich yn chwarae ym Mharc Canolog dros yr wythnosau nesaf, wrth i Sbaen, Yr Almaen a Denmarc chwarae ar y maes.

Dywedodd Cadeirydd y clwb, Shon Powell bod yr awyrgylch yn "arbennig iawn".

"Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes, ac mae ysbryd y gymuned yn wych," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fydd hyn ddim yn digwydd eto yn Ninbych yn ystod ein hoes ni, felly roedd yn rhaid i ni fachu ar y cyfle gyda'r ddwy law a chofleidio'r digwyddiad, ac mae'r gymuned gyfan wedi gwneud hynny."

Mae’r digwyddiad yn benllanw 12 mlynedd o waith caled i wirfoddolwyr y clwb, sydd yn chwarae yn yr ail adran ar hyn o bryd, sef cynghrair JD Cymru North.

Dros y cyfnod hwn, mae gwaith wedi’i wneud er mwyn gwneud y cae yn fwy, gosod gantri ar gyfer camerâu teledu, adeiladu system dyfrio, gosod ystafelloedd newid o ansawdd a lolfa lletygarwch â balconi yn ogystal â 2,000 medr o geblau ar ymyl y cae.

Image
Shon Powell
Cadeirydd CPD Dinbych, Shon Powell

Mae tua £2 filiwn wedi’i wario ar y holl welliannau, gydag arian gan Sefydliad Pêl-Droed Cymru (CFF), ar ran Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, yn cyfuno ag ymdrechion di-flino'r clwb i godi arian.

Ychwanegodd Mr Powell: "Rwy'n falch iawn, iawn yn wir. 

"Roedd gennym ni gynllun bron o'r dechrau. Fe wnaethon ni lunio cynllun 15 mlynedd tua 12 mlynedd yn ôl, ac rydyn ni wedi gweithio'n unol â chynllun lle roedden ni'n gwneud rhywbeth bob haf i wella'r cae.

"Fe wnaethon ni ddechrau codi arian drwy grantiau lleol. Yna, hanner ffordd drwy'r broses honno, enillodd Cymru'r cyfle i gynnal Pencampwriaeth Euro Dan-19 UEFA. Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn gwybod bod gennym gae o safon uchel iawn.

Image
Denbigh
Prif adeilad y clwb yn 2024 (chwith), a'r adeilad nawr ar ei newydd wedd (dde)
Image
Mae'r ystafelloedd newid wedi eu hailwampio er mwyn cydymffurfio â safonnau pêl-droed rhyngwladol
Mae'r ystafelloedd newid wedi eu hailwampio er mwyn cydymffurfio â safonau pêl-droed rhyngwladol

"Rydyn ni wedi adeiladu clwbdy newydd, wedi gosod system ddyfrhau, ac wedyn y peth nesaf ar y rhestr oedd adeiladu ystafelloedd newid newydd gan nad oedden nhw'n addas. Felly fe wnaethon ni lunio cynlluniau ar gyfer hynny.

"Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, mae gennym ni'r maes anhygoel yma, sydd i gyd yn newydd sbon. 

"Mae ganddo gyfleusterau gwych, ac mae'r cae ei hun yn arbennig. 

"Mae'r un maint â Wembley, yr un maint ag Old Trafford - ac ydyn, rydyn ni'n falch iawn ohono. 

"Mae gennym ni'r seilwaith yma hefyd i gynnal gemau rhyngwladol yn y dyfodol."

‘Sêr y dyfodol’

Fe chwaraeodd timau dan 16 o Frasil a Sbaen ar y cae bedair blynedd yn ôl,  yn rhan o gystadleuaeth datblygiad UEFA, ac mae’r gystadleuaeth hon yn gam yn uwch mewn safon.

Dywedodd Ollie Beech, Swyddog Cyfryngau CPD Dinbych: "Mae sêr go iawn y byd pêl-droed yn mynd i chwarae ar y cae yma. 

"Pan edrychwch ar y chwaraewyr sydd wedi chwarae yn y bencampwriaeth yn y gorffennol - Kylian Mbappé, Harry Kane, Antoine Griezmann, Viktor Gyökeres - mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

"Bydd Xavi Espart, sydd newydd wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Barcelona yng Nghynghrair Pencampwyr UEFA ac yn La Liga, a Diego Aguado, sydd wedi chwarae ei gêm gyntaf dros dîm cyntaf Real Madrid, yn chwarae dros Sbaen. 

"Mae'n annhebygol iawn y cewch chi gyfle i'w gweld yn chwarae ar gae o'r maint yma byth eto."

Image
Ollie Beech
Ollie Beech, Swyddog Cyfryngau CPD Dinbych

Yn ôl Mr Beech, bydd hynny'n "atyniad enfawr i bobl ddod yma".

"Mae poblogaeth Dinbych tua 9,000. Mae chwaraewyr ar y cae yma sy'n chwarae eu gemau cartref mewn meysydd sydd â digon o le i ddal pob un o drigolion Dinbych 10 gwaith drosodd," ychwanegodd.

Bydd holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Dan-19 yn cael eu dangos yn fyw ar-lein ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.

Prif Lun: Kylian Mbappê, Erling Haaland a tharian UEFA Euro Dan-19 yng Nghlwb Pêl-droed Dinbych. (Anton Zaitsev/Michael Emilio/Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.