Carcharu dyn o Abertawe am 16 mlynedd am dreisio menyw cyn dwyn ei chi

Dominik Szymanski

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am dreisio menyw yn y ddinas, cyn dwyn ei chi.

Fe ddyrnodd, ciciodd a llusgodd Dominik Szymanski, 47 oed, o Waun Wen, y ddioddefwraig pan wrthododd hi gael rhyw gydag o yn ei fflat ar Stryd Matthew yn y ddinas ar 2 Medi 2025.

Roedd wedi cwrdd â'r fenyw am y tro cyntaf yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Fe gafwyd Szymanski yn euog o dreisio, ymosod gan achosi niwed corfforol a lladrata ym mis Mai.

Cafodd ei ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar ddydd Iau ac fe fydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

'Ffiaidd'

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Claire Davies o Heddlu De Cymru: “Roedd hwn yn ymosodiad hirfaith ac arwyddocaol gafodd ei gyflawni gan droseddwr gwirioneddol ffiaidd yn erbyn menyw oedd yn agored i niwed ac nad oedd ganddi fawr o fodd i amddiffyn ei hun.

“Mae’r ddedfryd hon yn anfon neges hynod gadarnhaol at ddioddefwyr cam-drin rhywiol y byddant yn cael eu credu, y bydd eu hymosodwyr yn cael eu hadnabod, a byddant yn cael eu dwyn o flaen y llys."

Ychwanegodd: “Er nad yw’r dioddefwr bellach yn gallu gweld bod cyfiawnder wedi’i wneud iddi yn y llys, mae’r canlyniad hwn yn rhyddhad mawr i’w theulu a’i ffrindiau; maent wedi gweld Dominik Szymanski yn cael ei ddal yn gyfrifol am ei weithredoedd ac yn cael ei gosbi’n briodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.