Tywydd poeth wedi cael ‘effaith sylweddol’ ar bobl hŷn, medd Age Cymru
Mae’r cyfnod diweddar o dywydd eithriadol o boeth wedi cael effaith sylweddol ar bobl hŷn yng Nghymru, yn ôl Age Cymru.
Dywedodd yr elusen bod pobl hŷn "mewn perygl arbennig" o ddioddef gorflinder, trawiad gwres (heatstroke) a diffyg hylif.
“Gall problemau symudedd hefyd beri risg os yw pobl yn ei chael hi’n anoddach cyrraedd man oerach neu gael gafael ar ddŵr, gwyntyll neu gymorth arall i gadw’n oer.
“Gall byw ar eich pen eich hun neu mewn tŷ hŷn sydd heb ei awyru’n dda hefyd waethygu effaith tymheredd uchel dros gyfnod hir.”
Dywedodd Age Cymru nad yw pobl hŷn bob amser yn sylweddoli eu bod yn gorboethi nes eu bod eisoes yn teimlo’n sâl.
“Mae tymheredd uchel a lleithder yn gallu bod yn berygl i iechyd, yn enwedig wrth i ni fynd yn hŷn,” meddai.
“Mae’n bwysig yfed dŵr drwy gydol y dydd, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo’n sychedig, a chyfyngu ar alcohol gan ei fod yn gallu cynyddu’r risg o ddiffyg hylif.”
Mae cur pen, pendro, cyfog, gwendid, chwysu’n drwm neu guriad calon cyflym ymhlith arwyddion gorflinder gwres.
Cyngor yr elusen yw mynd i fan oer, llacio dillad tynn, yfed dŵr ac oeri’r corff. Dylai’r symptomau wella o fewn 30 munud, ond dylid cysylltu â meddyg neu GIG 111 os oes pryderon o hyd.
Gall trawiad gwres ddatblygu os nad yw gorflinder gwres yn cael ei drin. Mae dryswch, anadlu cyflym, ffitiau neu golli ymwybyddiaeth ymhlith yr arwyddion, a dylid ffonio 999 ar unwaith.
Dywedodd Age Cymru fod cyfnodau hirach a mwy rheolaidd o dywydd poeth yn peri risg gynyddol.
“Nid yw llawer o’n cartrefi wedi’u cynllunio ar gyfer gwres eithafol, felly mae’n bwysig cadw ffenestri a llenni ar gau yn ystod y dydd, ac agor ffenestri gyda’r nos pan fydd hi’n oerach,” meddai.
“Gall cadw golwg ar gymydog neu berthynas hŷn, cynnig casglu siopa neu feddyginiaeth, neu roi benthyg gwyntyll wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
