Trysorau o longddrylliad o’r 16eg ganrif i’w harddangos am y tro cyntaf

Trysor Ann Francis

Bydd ceiniogau aur a gwrthrychau a gafodd eu darganfod mewn llong fasnach a ddrylliwyd oddi ar arfordir Cymru dros 400 mlynedd yn ôl yn cael eu harddangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Gwener.

Bydd arddangosfa Trysorau’r Tonnau yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Mae’r gwrthrychau yn dod o weddillion yr Ann Francis, llong fasnach a ddrylliwyd ar draeth Margam ar 28 Rhagfyr 1583.

Roedd y llong yn dychwelyd o Sbaen pan gafodd ei dal mewn storm a chael ei chwythu oddi ar ei chwrs.

Roedd perchennog y llong, Francis Shaxton o King’s Lynn, wedi cludo llond llong o rawn i Sbaen ac roedd y taliad am y cargo ar fwrdd y llong ar ei thaith yn ôl.

Yn ogystal â'r ceiniogau aur o deyrnasiad Ferdinand ac Isabella o Sbaen, fe fydd chwiban y badfeistr a chlo cyfuniad o un o’r cistiau pren yn cael eu harddangos

Hyd yma, nid yw cyfuniad y clo wedi’i ddatrys.

Cafodd y rhan fwyaf o’r trysor ei ganfod gan Peter Hughes dros gyfnod o 21 mlynedd.

Dechreuodd ddod o hyd i geiniogau gyda synhwyrydd metel wedi i stormydd symud y tywod oedd wedi bod yn gorchuddio’r gwrthrychau.

Dywedodd Alastair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru, fod y gwrthrychau hefyd yn taflu goleuni ar fywydau pobl oedd yn gysylltiedig â’r llong.

“Wrth gwrs, mae'r darnau arian a'r arteffactau yn anhygoel, ond maen nhw hefyd yn cyd-fynd â chyfoeth o gofnodion cyfoes sy'n adrodd straeon am forwyr, ysbeiliwyr, arglwyddi, smyglwr a hyd yn oed menyw sydd wedi'i chyhuddo o fod yn wrach,” meddai.

“Dyma gasgliad hynod o straeon a gwrthrychau, ac mae'n wych bod Amgueddfa Cymru yn cael eu harddangos.”

Dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Nicole Deufel, y byddai’r casgliad yn rhan o gynlluniau’r amgueddfa i ganolbwyntio mwy ar berthynas Cymru â’r môr.

Bydd yr arddangosfa, sydd am ddim, ar agor o 26 Mehefin ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.