Cannoedd o ysgolion ar gau ar draws Cymru ar ddiwrnod olaf rhybudd am wres eithafol

Ysgolion ar gau

Mae cannoedd o ysgolion ar gau ar draws Cymru unwaith eto ddydd Iau ar ddiwrnod olaf rhybudd coch am wres eithafol i’r wlad.

Mae o leiaf 840 o ysgolion ar gau ar draws Cymru ddydd Iau, wedi i dros 500 gau ddydd Mercher wrth i'r tymheredd gyrraedd 33.3C yng Nghaerdydd.

Mae pob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn, Sir y Fflint a Wrecsam wedi cadarnhau bod o leiaf rhai o’u hysgolion ar gau neu’n cau’n gynnar.

Daw hynny wrth i’r Swyddfa Dywydd rybuddio y gallai’r tymheredd fod hyd yn oed yn uwch dydd Iau ar ôl torri record y DU ar gyfer diwrnod ym mis Mehefin ddydd Mercher.

Mae ffigurau dros dro yn awgrymu bod y tymheredd wedi cyrraedd 36.1C yn Gosport, Hampshire, gan dorri'r record flaenorol o 35.6C ar gyfer mis Mehefin, o haf 1976.

Ddydd Mercher fe gafodd y rhybudd coch ei ymestyn i gynnwys Abertawe.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd y gwres eithriadol yn lledu tua'r gogledd ddydd Iau, “gyda diwrnod hyd yn oed yn boethach o'n blaenau i rai gyda rhybuddion gwres eithafol ambr a choch mewn grym”.

Dywedodd yr Athro Stephen Belcher, prif wyddonydd y Swyddfa Dywydd, ei bod yn “ddifrifol” gweld tymereddau mor uchel â hyn ym mis Mehefin.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gofyn i bobl wirio eu gwefan cyn teithio oherwydd effaith y tywydd poeth ar wasanaethau.

Bydd y rhybudd coch am dywydd poeth eithafol yn dod i ben am hanner nos nos Iau.

Mae’n berthnasol i Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a Thorfaen.

Bydd rhybudd oren sy’n berthnasol i bob sir yng Nghymru hefyd yn dod i ben am hanner nos.

Mae’r rhybuddion oren yn parhau mewn grym i rannau o Loegr ddydd Gwener ond mae disgwyl i’r tymheredd yng Nghymru syrthio i ganol yr 20au gradd Celsius cyn oeri eto.

Pa ysgolion sydd ar gau?

Mae pob ysgol ar gau ym Mlaenau Gwent a Thorfaen, a nifer fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy ac Abertawe.

Mae ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin ar gau, mae 32 o ysgolion ar gau yng Ngheredigion, ac yn Sir Benfro mae Ysgol Bro Preseli wedi penderfynu cau oherwydd y gwres.

Yng Ngwynedd mae chwech o ysgolion ar gau gan gynnwys Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.

Gwiriwch isod ydi eich ysgol ar gau:

Abertawe

Blaenau Gwent 

Bro Morgannwg

Caerdydd

Caerffili

Casnewydd - Gwiriwch wefan yr ysgol benodol.

Castell-nedd Port Talbot

Ceredigion

Conwy

Dinbych

Gwynedd

Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Powys

Rhondda Cynon Taf

Sir Benfro

Sir Fynwy 

Sir Gâr

Sir Gâr 

Sir y Fflint

Torfaen

Wrecsam

Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.