Sir Gâr: Yr heddlu'n cyhoeddi 'digwyddiad o bwys' wedi damwain bws
Mae’r gwasanaethau brys wedi ymateb i ddigwyddiad o bwys yn Sir Gâr yn dilyn gwrthdrawiad bws ger Cydweli.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ffordd yr A484, ger cylchfan Cydweli (Parc y Bocs) am 12.20 ddydd Mawrth.
Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth ambiwlans awyr lanio yn y lleoliad toc cyn 12:00, tra bod y gwasanaeth tân ac achub hefyd yn bresennol.
Dywed yr heddlu nad yw'r ddamwain yn un angheuol, gyda phob teithiwr bellach allan o'r bws ac yn "derbyn gofal priodol".
Mae canolfan orffwys wedi'i sefydlu yng Nghanolfan John Burns, ble "mae trefniadau llesiant yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau fod pawb yn gyfforddus a diogel", yn ôl y llu.
Mae’r disgwyl i'r ffordd rhwng y gylchfan a Llandyfaelog barhau ar gau i’r ddau gyfeiriad am beth amser ac mae'r heddlu'n gofyn i yrwyr ddefnyddio ffyrdd gwahanol.
Wrth ymateb i'r ddamwain, dywedodd Aelod Seneddol yr ardal, Nia Griffith AS: "Mae fy meddyliau i gyda'r bobl oedd ynghlwm â'r ddamwain a'r gwasanaethau achub sydd yn eu cynorthwyo.
"Hoffwn bwysleisio'r cais swyddogol ar y cyhoedd i gadw draw ac osgoi cylchfan Parc y Bocs a Ffordd Llandyfaelog drwy ddefnyddio ffyrdd gwahanol."
Mae'r llu wedi rhannu cyngor ar sut i gadw'n ddiogel yn y gwres gyda theithwyr sydd yn sownd mewn traffig o ganlyniad i'r ddamwain.
Maent yn cynghori teithwyr i ddefnyddio systemau aerdymheru (air conditioning) ble'n bosib, neu agor ffenestri er mwyn annog llif yr aer.
Mae hefyd cyngor i yfed dŵr yn rheolaidd, i ofalu am blant a phobl fregus yn arbennig, a pheidio gadael anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain mewn cerbyd.