Lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl canfod corff wrth chwilio am ferch 14 oed

Lilly Blaina

Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi i gorff gael ei ddarganfod yn nhref Blaenau ger Abertyleri nos Lun. 

Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, dywedodd y llu fod teulu Lilly, merch 14 oed oedd ar goll, wedi cael gwybod am y datblygiad.

Fe gafodd Lilly ei gweld ddiwethaf ar Stryd Fawr Blaenau am tua 18:50 nos Sadwrn. 

Dywedodd yr heddlu fod corff menyw wedi cael ei ddarganfod yn ardal Parc Duffryn o'r dref am tua 22:10 nos Lun. 

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Steven Thomas: "Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi gofid a phryder yn ein cymunedau. 

"Mae gennym ni lawer o swyddogion yn yr ardal ar hyn o bryd wrth i ymholiadau barhau i sefydlu amgylchiadau'r farwolaeth. 

"Rydym yn annog unrhyw un â gwybodaeth i siarad â ni neu mae modd cysylltu yn y ffyrdd arferol."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600197059. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.