Yr ymateb gwleidyddol o Gymru i ymadawiad Syr Keir Starmer

Senedd Cymru

Yn dilyn y cyhoeddiad hanesyddol gan y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fore dydd Llun ei fod yn bwriadu ymddiswyddo o'r swydd yn yr wythnosau nesaf, mae ymateb wedi dod i'r newyddion gan wleidyddion o Gymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, mewn neges ei fod yn dymuno'n dda i Syr Keir wrth iddo gamu i lawr.

"Rwy'n siomedig bod gallu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Phrif Weinidog y DU ar faterion sy'n bwysig i bobl Cymru yn cael ei rwystro gan yr ansefydlogrwydd yn San Steffan.

"Rwy'n dymuno'n dda i Syr Keir Starmer wrth iddo baratoi i adael y swydd. Hoffwn weld ei olynydd yn cydnabod bod angen perthynas newydd rhwng Cymru â San Steffan, gyda ffocws ar fwy o bwerau, cyllid teg, a pharch at y mandad democrataidd a gyflwynwyd gan bobl Cymru.

"Bydd fy llywodraeth a minnau bob amser yn ceisio cael perthynas adeiladol gyda phwy bynnag sydd yn Rhif 10, ond mae gennym ddisgwyliadau clir bod rhaid i'r agenda parch weithio'r ddwy ffordd.", meddai Mr ap Iorwerth.

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, David Chadwick AS: "Ni fydd newid y person ar y brig yn newid llawer oni bai bod Llafur o'r diwedd yn wynebu'r problemau strwythurol sy'n parhau i ddal Cymru yn ôl.

"Er gwaethaf canlyniadau trychinebus etholiad Senedd (Cymru) i Lafur, nid oes fawr o arwydd bod agwedd Llafur San Steffan tuag at Gymru wedi newid.

"Rhaid i'r Prif Weinidog nesaf hefyd ddysgu gwers y mae'r pum diwethaf wedi'i hanwybyddu: ni allwch dyfu'r economi'n gynaliadwy heb ddilyn perthynas agosach â'r UE neu gyflwyno fformiwla ariannu decach i Gymru sy'n cydnabod anghenion unigryw ein poblogaeth."

Ychwanegodd: "Mae angen mwy na Phrif Weinidog newydd ar Gymru. Mae angen llywodraeth San Steffan arnom sydd o'r diwedd yn cymryd Cymru o ddifrif."

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Arweinydd Dros Dro Llafur Cymru, Ken Skates: "Daeth Keir â'n plaid yn ôl o anghof a chyflawnodd un o'r buddugoliaethau mwyaf y mae'r Blaid Lafur wedi'i weld. O dan ei arweinyddiaeth rydym wedi gweld cynnydd i'r isafswm cyflog, hwb i bensiwn y wladwriaeth a hawliau cyflogaeth cryfach. 

"Rydym hefyd wedi derbyn setliad datganoli hanesyddol a chynlluniau i'r cenedlaethau am £14bn ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru.

"Mae wedi arwain y wlad trwy gyfnodau anodd iawn gydag urddas a dilysrwydd, ac rwyf am gofnodi fy niolch dwysaf iddo.

"Rydym bellach yn ddyledus i Keir, a'r wlad, ddod at ei gilydd a sicrhau bod Llafur yn parhau i gyflawni dros bobl ledled Cymru, a'r DU."

 
 
 
 
 
 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.