Rhybudd oren am wres llethol yn dod i rym mewn mannau
Mae rhybudd oren am “dywydd poeth eithafol” wedi dod i rym mewn rhannau o Gymru ddydd Llun.
Bydd y rhybudd yn berthnasol i'r de-ddwyrain a'r canolbarth ddydd Llun a dydd Mawrth, ond mae wedi cael ei ymestyn i bob rhan o Gymru, heblaw am Sir Benfro, o ddydd Mercher tan ddydd Iau.
Fe allai'r tywydd achosi “salwch difrifol posibl neu berygl i fywyd,” meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd cyntaf wedi dod i rym rhwng 01:00 fore Llun a 23:59 ddydd Mawrth.
Mae'r rhybudd hwnnw yn benodol ar gyfer ardaloedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.
Mae'r Swyddfa Dywydd bellach hefyd wedi cyhoeddi ail rybudd oren rhwng 00:00 ddydd Mercher a 23:59 ddydd Iau i bob sir yng Nghymru heblaw am Sir Benfro.
Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai'r tymheredd gyrraedd 35C mewn rhai ardaloedd o'r wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y bydd y tymheredd hefyd yn cyrraedd dros 20C dros nos.
Rhybuddiodd y gallai rhai pobl ddioddef problemau iechyd o ganlyniad i'r tywydd poeth, gan gynnwys peryglon fel llosg haul a syched eithafol.
Mae'n bosib y bydd oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.
Newid hinsawdd
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r record am y tymheredd uchaf a gofnodwyd ym mis Mehefin, sef 35.6C, gael ei thorri.
Cafodd y tymheredd hwnnw ei gofnodi yn 1976 yn Southampton.
Dywedodd Simon Partridge, meteorolegydd yn y Swyddfa Dywydd, fod newid hinsawdd yn golygu bod cyfnodau o dywydd eithafol yn digwydd “yn amlach”.
“Dyna, yn anffodus, yw’r cyfeiriad mae pethau’n mynd ar hyn o bryd, ac nid yw’n ymddangos bod hynny’n arafu,” meddai.
