Mynediad am ddim i fwy na 150 o adeiladau hanesyddol Cymru

Mynediad am ddim i fwy na 150 o adeiladau hanesyddol Cymru
Mae mynediad am ddim i fwy na 150 o adeiladau hanesyddol a safleoedd treftadaeth Cymru'r yn mis Medi.
Mae’n rhan o ŵyl, Drysau Agored, sy’n ceisio annog pobol i ymweld llefydd sy’n llai adnabyddus ac sydd fel arfer ar gau i’r cyhoedd.
“Mae 'na gymaint gyda ni ar draws y wlad o feddrodau neolithig i'r abatai,” meddai Ffion Reynolds Rheolwr Treftadaeth a’r Celfyddydau, Cadw Cymru.
“Bydd cyfle i chi fynd i Eglwys Tŷ Ddewi i weld sut falle base lle fel hyn yn edrych fel pan odd e ar ei frig gyda ffenestri lliw a theils ar y llawr.
“Mae'n siawns i gael taith tywys efallai tu hwnt i'r llen, ac mae gyda ni lot fawr o ddigwyddiadau yn yr awyr agored hefyd achos y pandemig.”
O Gastell Biwmares yn y gogledd i Eglwys Llandaf yng Nghaerdydd, mae’n gyfle i ddod a hanes yn fyw.
Felly ble hoffech chi ymweld cyn diwedd y mis?