Newyddion S4C

Llafur yn galw am wyrdroi i gynlluniau dileu cynnydd mewn Credyd Cynhwysol

The Guardian 11/09/2021
Rishi Sunak
CC

Mae'r blaid Lafur wedi galw ar Rishi Sunak i wyrdroi'r penderfyniad i ddileu'r cynnydd wythnosol o £20 mewn Credyd Cynhwysol.

Yn ôl The Guardian, mae'r Ysgrifennydd Pensiwn a Gwaith Cysgodol, Jonathan Reynolds, wedi annog y canghellor i gymryd sylw o elusennau, ymgyrchwyr gwrthdlodi a chwech o gyn-ysgrifenyddion gwaith a phensiynau sydd yn rhybuddio y byddai'r toriadau yn effeithio bron i 6m o deuluoedd. 

Ychwanegodd Mr Reynolds y byddai Mr Sunak yn "bersonol gyfrifol" am y toriad mwyaf ar fudd-daliadau yn hanes y wladwriaeth les. 

Daw hyn ar ôl i lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig anfon llythyr at Lywodraeth Prydain yn eu hannog i wyrdroi’r penderfyniad.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.