Diflaniad Ricky Harris: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Ricky Harris

Mae dyn 41 a gafodd ei arestio mewn cysylltiad gyda diflaniad dyn arall wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fe gafodd y dyn o Aberpennar ei arestio mewn cysylltiad â diflaniad Ricky Harris o Aberdâr.

Cafodd Mr Harris ei weld diwethaf ar deledu cylch cyfyng tua 14.20 ar 18 Tachwedd 2023, ym Maes-y-Deri, Aberdâr.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru arestio'r dyn 41 oed ar amheuaeth o rwystro claddedigaeth gyfreithlon a hefyd gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â’r diflaniad.

Ychwanegodd y llu bod y dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'w hymholiadau barhau.

Mae teulu Ricky wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac maen nhw’n parhau i gael cefnogaeth gan Heddlu De Cymru, meddai’r llu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.