Y Cymry sydd ar Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

David Emanuel, Cerys Matthews a Roger Lewis
David Emanuel, Cerys Matthews a Roger Lewis

Mae Cerys Matthews, cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis a’r dylunydd ffasiwn David Emanuel ymysg y Cymry sydd ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni.

Mae Cerys Matthews yn cael ei hanrhydeddu ag OBE am ei gwasanaethau i gerddoriaeth.

Mae’r gantores a’r ddarlledwraig yn adnabyddus fel cyn-brif leisydd y band Catatonia.

Roedd eisoes wedi cael ei hanrhydeddu ag MBE yn 2014.

Bydd Roger Lewis, cyn-brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, yn cael MBE am ei wasanaethau gwirfoddol i bersonél y lluoedd arfog a chyn-filwyr.

Ef yw cadeirydd Sefydliad Churchill Lines.

Cafodd ei benodi’n brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn 2006, ar ôl bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Cymru.

Hefyd yn derbyn MBE mae'r dylunydd ffasiwn David Emanuel, sy’n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae’n cael ei gydnabod am ei waith elusennol fel llysgennad a chodwr arian i Macmillan.

Mae Emanuel yn fwyaf adnabyddus am gyd-ddylunio ffrog briodas Diana, Tywysoges Cymru.

Mae rhestrau anrhydeddau yn cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn, ar adeg y Flwyddyn Newydd ac i nodi pen-blwydd swyddogol y Brenin ym mis Mehefin.

Maen nhw’n cydnabod pobl sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu maes neu i’w cymuned.

Gall aelodau o’r cyhoedd enwebu rhywun am anrhydedd.

Image
Cefyn Burgess, Steve Borley a Jessica Morden
Mae Cefyn Burgess, Steve Borley a Jessica Morden AS hefyd ar y rhestr

Ymhlith y rhai fydd yn derbyn DBE mae Jessica Morden, AS Llafur Dwyrain Casnewydd, am ei gwasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus, a’r Athro Heather Stevens o Fro Morgannwg am ei gwasanaethau i’r amgylchedd, pobl ifanc a dyngarwch yng Nghymru.

Bydd Sumeshni Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru, hefyd yn derbyn DBE am ei gwasanaethau i nyrsio.

Mae Dr Victoria Winckler o Ferthyr Tudful, cyn-gyfarwyddwr Sefydliad Bevan, yn cael CBE am wasanaeth cyhoeddus.

Bydd tri o Gymru yn derbyn OBE. 

Mae Steve Borley, cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a sylfaenydd CMB Engineering, yn cael ei gydnabod am ei wasanaethau i economi Cymru ym meysydd peirianneg, adeiladu a chyfranogiad mewn chwaraeon.

Mae’r Athro Ann John o Brifysgol Abertawe yn derbyn OBE am ei gwasanaethau i atal hunanladdiad ac arloesi digidol, a Dr Geeta Kumar, ymgynghorydd obstetreg a gynaecoleg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, am ei gwasanaethau i iechyd menywod.

Yn derbyn MBE mae’r Athro Emeritws David Austin o Lanbedr Pont Steffan, am ei wasanaethau i dreftadaeth Cymru, adfywio economaidd a phobl ifanc, a Rhian Moore o Ben-y-bont ar Ogwr, Prif Wirfoddolwr Cymru y Sgowtiaid, am ei gwasanaethau i bobl ifanc.

Image
Megan Jones Roberts a'r Athro Emeritws David Austin
Megan Jones Roberts a'r Athro Emeritws David Austin

Mae Megan Jones Roberts o Aberystwyth, sy’n Uwch Gynghorydd gyda Community First, hefyd yn derbyn MBE am ei gwasanaethau i’r gymuned.

Mae Cefyn Burgess o Gonwy, sy’n wehydd ac yn wneuthurwr tecstilau, yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaethau i gelf a chrefft.

Mae'r actores Helen Mirren, y cyn-chwaraewr rygbi Kevin Sinfield, yr awduron Malorie Blackman a Julia Donaldson, y DJ Carl Cox a sylfaenydd y cwmni colur Charlotte Tilbury ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi eu hanrhydeddu ar draws y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.