Cyn-chwaraewr Cymru Kenny Jackett wedi marw'n 64 oed

Kenny Jackett

Mae cyn-chwaraewr Cymru, Kenny Jackett, wedi marw yn 64 oed.

Enillodd 31 o gapiau dros Gymru rhwng 1982 ac 1988 ac roedd yn rheolwr ar Glwb Pêl-droed Abertawe rhwng 2004 a 2007.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Abertawe y bydd pawb oedd yn adnabod Kenny Jackett "yn ei golli'n fawr."

"Mae CPD Abertawe yn galaru yn dilyn marwolaeth cyn-reolwr y clwb, Kenny Jackett, yn 64 oed.

"Bydd yn cael ei golli'n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod, ond mae ein clwb a'r byd pêl-droed yn lle gwell oherwydd ei bresenoldeb.

"Bydd ganddo le arbennig yng nghalonau cefnogwyr Abertawe, ac does dim amheuaeth bod ganddo le yn hanes ein clwb.

"Mae CPD Abertawe yn anfon ei gydymdeimlad i deulu a ffrindiau Kenny yn ystod y cyfnod trist hwn, a bydd y clwb yn ei gofio ac yn talu teyrnged iddo pan fyddwn gyda'n gilydd eto y tymor nesaf."

Image
Kenny Jackett yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Milwall, yn herio Abertawe
Kenny Jackett yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Millwall, yn herio Abertawe

Treuliodd Kenny Jackett bron i dair blynedd fel rheolwr Abertawe, ac roedd yn gyfrifol am gychwyn taith y clwb o waelod Adran Dau i Uwch Gynghrair Lloegr.

Enillodd ddyrchafiad yn ei dymor cyntaf yn Abertawe, a bu bron iddo sicrhau ail ddyrchafiad yn olynol, gan golli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Adran Un yn erbyn Barnsley yn 2006.

Yr un flwyddyn, enillodd y clwb Dlws EFL yn erbyn Carlisle, gyda foli Lee Trundle yn aros yng nghof cefnogwyr yr Elyrch hyd heddiw.

Cafodd tad Kenny Jackett, Frank, ei eni yng Nghymru ac fe benderfynodd gynrychioli ei wlad ar y llwyfan rhyngwladol.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1982 yn erbyn Norwy, ac fe enillodd 31 o gapiau dros gyfnod o chwe mlynedd.

Fe ddaeth ei ymddangosiad olaf yn erbyn Sweden mewn gêm gyfeillgar ym mis Ebrill 1988.

Roedd anafiadau yn broblem gyson iddo, a bu'n rhaid iddo ymddeol fel chwaraewr yn 28 oed, cyn dechrau gyrfa fel hyfforddwr.

Yn ystod ei yrfa fel rheolwr, roedd wedi gweithio gyda chlybiau Watford, Portsmouth, Wolves, Rotherham United, Millwall a Leyton Orient yn ogystal â'r Elyrch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.