Conwy: Monitro gyrwyr jetskis sy'n teithio 'pedair gwaith yn uwch na'r terfyn cyflymder'
Mae camerâu cylch cyfyng wedi cael eu gosod i fonitro gyrwyr jetskis sydd yn teithio ar gyflymder "pedair gwaith yn uwch na'r terfyn" yn harbwr Conwy.
Clywodd un o bwyllgorau'r cyngor fod rhai yn teithio ar gyflymder tra bod plant hefyd ar y jetskis ar hyd sianel gul yn yr harbwr.
Mae awdurdod yr harbwr wedi gosod camerâu cylch cyfyng er mwyn ceisio dal y rhai sydd yn teithio ar gyflymder uwch na'r terfyn 10 not, ond dyw'r cyngor heb ddal unrhyw un yn gwneud hynny eto.
Nid oedd modd dod o hyd i berson oedd wedi gyrru'n uwch na'r terfyn yn ddiweddar gan fod y gyrrwr wedi tynnu'r plât cofrestru oddi ar y jetski.
Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Conwy y mis hwn, dywedodd Meistr yr Harbwr, Matt Forbes, fod y rhan fwyaf o yrwyr yn cydymffurfio â'r rheolau, ond bod rhai yn peri risg i eraill.
"Hoffwn bwysleisio bod yna leiafrif o yrwyr sydd yn torri'r rheol cyflymder 10 not o fewn yr harbwr. Mae'r mwyafrif yn dilyn y rheolau.
"Ers y cyfarfod diwethaf, rydym wedi gweld llawer o ddigwyddiadau o yrru'n beryglus, sef gyrru ar gyflymder o 30 neu 40 not gyda phlant ifanc ar y jetskis.
"Mae hyn yn dueddol o ddigwydd yn y man mwyaf cul yn y sianel rhwng Deganwy a'r bannau."
'Tystiolaeth'
Ychwanegodd fod camerâu cylch cyfyng wedi cael eu gosod, a bod yr harbwr yn cydweithio â'r cwmni camerâu i fonitro lluniau byw o'r harbwr.
"Cyn y gallwn erlyn unrhyw un, mae'n rhaid i ni sicrhau y byddwn yn llwyddiannus," meddai Matt Forbes.
"Yr hyn rydym eisiau ei osgoi yw bod yn aflwyddiannus, felly mae angen tystiolaeth gadarn, sef y jetski gyda'r gyrrwr arno yn teithio ar gyflymder.
"Dydyn ni heb gyrraedd y pwynt yna eto. Roeddem yn agos y tro diwethaf, ond roedd y gyrrwr wedi tynnu'r plât cofrestru oddi ar y cerbyd."
Dywedodd Mr Forbes fod arwyddion yn "fwy amlwg" ar yr harbwr yn rhybuddio pobl o'r terfyn cyflymder.