Starmer dan bwysau wrth i ail weinidog ymddiswyddo dros gyllid amddiffyn

Al Carns / John Healey

Mae Gweinidog Lluoedd Arfog y DU, Al Carns, wedi ymddiswyddo oriau ar ôl i John Healey adael ei swydd fel yr Ysgrifennydd Amddiffyn.

Daw'r ymddiswyddiad yn dilyn ffrae dros gyllido'r lluoedd arfog, gyda Mr Healey yn cyhuddo'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer o fethu darparu digon o gyllid ar gyfer y Cynllun Buddsoddi Amddiffyn (DIP).

Mae Mr Starmer wedi cyhoeddi mai'r Gweinidog Diogelwch Dan Jarvis fydd yn olynu Mr Healey fel Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mewn llythyr at Mr Starmer nos Iau, dywedodd Al Carns nad oedd y Cynllun Buddsoddi Amddiffyn (DIP) wedi'i “ariannu'n ddigonol”.

“Mae wedi bod yn fraint fy mywyd i wasanaethu'r wlad hon, yn gyntaf mewn gwisg filwrol ac yna yn y llywodraeth.

"Rwyf wedi dweud bod materion yn wynebu'r Adran hon na allent gael eu datrys gan atebion hawdd, a bod angen cytundeb ledled y llywodraeth ynghylch maint yr heriau sy'n ein hwynebu.

"Mae wedi dod yn amlwg i mi na fydd y newid yr oeddwn wedi pwyso amdano yn dod. O ystyried y sefyllfa, rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo fel Gweinidog y Lluoedd Arfog."

Daeth cyhoeddiad Mr Carns nos Iau, ychydig oriau ar ôl cyhoeddiad annisgwyl Mr Healey, sydd wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn y llywodraeth yn ystod trafodaethau ynghylch y rhyfeloedd yn Wcráin a'r Dwyrain Canol.

Dywedodd Mr Healey nad oedd y Prif Weinidog “wedi gallu, ac nad oedd y Trysorlys wedi bod yn fodlon, addo'r adnoddau sydd eu hangen ar y wlad i'w hamddiffyn ar adeg pan mae bygythiadau'n cynyddu”.

Mae'r DIP, y galwodd yr Adolygiad Amddiffyn Strategol amdano bron yn union flwyddyn yn ôl, wedi'i oedi ers peth amser oherwydd anghytuno ynghylch cyllid.

Dywedodd Mr Healey ei fod wedi derbyn pecyn ariannol ar gyfer y cynllun brynhawn Llun a oedd “ymhell o fod yn ddigon”.

Dywedodd na fyddai'r gefnogaeth ychwanegol yn dod tan ar ôl 2030.

Dywedodd: “Ar ôl esbonio wrthych na fyddwn yn gallu derbyn pecyn ar gyfer y DIP nad yw'n rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar ein lluoedd arfog iddynt, does gen i ddim dewis arall bellach ond cyflwyno fy ymddiswyddiad fel eich Ysgrifennydd Amddiffyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.