Oriel luniau: 10 mlynedd ers i Gymru ddechrau Euro 2016 gyda buddugoliaeth

Gareth Bale yn dathlu sgorio yn erbyn Slovakia

Mae'n 10 mlynedd ddydd Iau ers i daith anhygoel Cymru yn Euro 2016 gychwyn gyda buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Slovakia.

Hon oedd y gystadleuaeth gyntaf i Gymru gyrraedd ers Cwpan y Byd 1958.

Cyn y gystadleuaeth roedd llawer o gefnogwyr Cymru yn hapus i fod yno o gwbl.

Ond roedd yr hyn oedd i ddod tu hwnt i ddychymyg unrhyw aelod o'r Wal Goch wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Cic rydd Gareth Bale ddechreuodd y daith yn erbyn Slovakia, cyn i Hal Robson-Kanu sicrhau'r fuddugoliaeth gyda naw munud yn weddill.

Dyma rai o'r lluniau gorau o'r diwrnod hanesyddol hwnnw.

Image
Y gic a ddechreuodd bob dim. Bale yn sgorio gôl gyntaf Cymru yn Euro 2016.
Y gic a ddechreuodd bob dim: Gareth Bale yn sgorio gôl gyntaf Cymru yn Euro 2016.
Image
Chris Coleman yn cyfarth cyfarwyddiadau i'r chwaraewyr ar y cae.
Chris Coleman yn cyfarth cyfarwyddiadau i'r chwaraewyr ar y cae.
Image
Ashley Williams yn codi'n uchel i ennill peniad
Ashley Williams yn codi'n uchel i ennill peniad.
Image
Fe allai pethau wedi bod mor wahanol os nad oedd Ben Davies wedi clirio'r bêl oddi ar y llinell
Fe allai pethau wedi bod mor wahanol os nad oedd Ben Davies wedi clirio'r bêl oddi ar y llinell.
Image
Ifan Pritchard, prif leisydd y band Gwilym yn un fricsen o'r Wal Goch yn Bordeaux
Cefnogwyr y Wal Goch yn Bordeaux
Image
Y Wal Goch, a dilynodd Cymru ledled Ffrainc ar y daith anhygoel
Y Wal Goch, a dilynodd Cymru ledled Ffrainc ar y daith anhygoel.
Image
Hal Robson-Kanu yn dathlu sgorio'n hwyr yn y gêm.
'Doedd gan Hal ddim hawl!' geiriau sylwebydd BBC Cymru, Dylan Griffiths, pan sgoriodd Hal Robson-Kanu gôl hwyr yn y gêm.
Image
Gorfoledd: Y chwaraewyr yn ymuno â Robson-Kanu yn y dathliadau
Gorfoledd: Y chwaraewyr yn ymuno â Robson-Kanu yn y dathliadau
Image
Beth mae'n ei olygu: Gareth Bale yn dathlu'r fuddugoliaeth.
Beth mae'n ei olygu: Gareth Bale yn dathlu'r fuddugoliaeth.
Image
Pwy all anghofio gwallt melyn eiconig Aaron Ramsey, sydd yn dathlu gyda Chris Gunter fan hyn.
Pwy all anghofio gwallt melyn eiconig Aaron Ramsey, sydd yn dathlu gyda Chris Gunter fan hyn.
Image
Y fuddugoliaeth gyntaf yn ystod haf hanesyddol
Y fuddugoliaeth gyntaf yn ystod haf hanesyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.