Anhrefn Belfast yn 'drais ffiaidd' medd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon wedi dweud mai "trais ffiaidd" yw'r hyn ddigwyddodd yn Belfast nos Fawrth.
Cafodd tai a cheir eu rhoi ar dân yn y ddinas.
Hefyd fe wnaeth dynion â’u hwynebau wedi’u gorchuddio rhoi biniau masnachol ar dân a’u gwthio i mewn i fws Glider ar Ffordd Newtownards yn nwyrain Belfast.
Roedd y protestiadau wedi cychwyn yn erbyn mewnfudo wedi ymosodiad â chyllell yn y ddinas.
Cafodd dioddefwr yr ymosodiad â chyllell anafiadau sylweddol i’w lygaid.
Mae disgwyl i ddyn 30 oed ymddangos yn y llys yn ddiweddarach ar gyhuddiad o geisio llofruddio, bod ag arf gyda llafn neu erfyn miniog mewn man cyhoeddus a bygythiadau i ladd.
Yn ôl yr heddlu mae'r dyn sy'n cael ei amau o fod wedi ymosod yn dod o Sudan. Fe ddaeth i Brydain yn 2023. Roedd wedi cael caniatâd i aros tan 2028 ar ôl teithio i Ogledd Iwerddon o Ddulyn.
Does dim arwydd bod yr ymosodiad yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Yn gynharach roedd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Iwerddon wedi apelio ar bobl i bwyllo, wrth i bryderon gynyddu y gallai’r protestiadau droi’n dreisgar.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i 62 digwyddiad nos Fawrth gyda'r mwyafrif yn Belfast. Roedd yna anrhefn hefyd yn Newtownabbey ac yn Portadown.
Mae un gweinidog wedi dweud wrth y BBC bod pobl wedi cael eu gorfodi allan o'u tai "am eu bod nhw'n ddu". Dywedodd Jack McKee ei fod wedi ceisio helpu trigolion pan ddechreuodd tai gael eu rhoi ar dân yn Ffordd Crumlin. Roedd rhai yn aelodau o'i eglwys meddai ac wedi bod yn aelodau ers 20 mlynedd.
Roedden nhw yn cael eu "gorfodi allan, ymosodiadau ar eu tai, chwalu ffenestri, tai wrth eu hymyl yn cael eu llosgi. Mae'r rhain yn bobl Gristnogol dda sydd wedi eu gorfodi allan jest achos bod nhw yn ddu".
Ychwanegodd fod pobl wedi "ffieiddio" gyda'r ymosodiad cyllell. "Ond dyw hyn ddim yn helpu neb."
"Mae dynion, merched a phlant yn byw mewn ofn achos yr hyn wnaeth rhai pobl wirion neithiwr".
"Dwi'n flin ac yn siomedig mai dyma ymateb pobl yn ein cymuned ni."
Mae un AS wedi dweud wrth raglen Newsnight bod "pogrom ar sail hil" wedi digwydd ar y strydoedd. Fe wnaeth Claire Hanna awgrymu bod "actorion negyddol ar-lein a gwleidyddion lleol sydd ddim wir yn malio am yr hyn mae cymunedau yng ngogledd Belfast wedi wynebu" wedi defnyddio'r ymosodiad cyllell i annog trais a rhaniadau.
"Yr hyn rydych chi yn weld yw pogrom ar sail hil. Rydyn ni yn gweld dynion yn mynd o ddrws i ddrws yn gofyn i dramorwyr adael a hynny wedi selio yn llwyr ar liw eu croen. Dydy o ddim wedi selio ar yr hyn maen nhw yn cyfrannu i gymdeithas, beth yw eu statws yma. Mae'n frawychus i bobl Belfast sydd eisiau i wleidyddiaeth fel hyn fod yn rhywbeth angof."
