Ceredigion: Cynghorwyr i benderfynu ar gynllun dadleuol i adeiladu tai yn Llanilar

Llun o'r safle ar Fferm Tanrallt

Mae disgwyl i gynghorwyr sir Ceredigion benderfynu ddydd Mercher a ddylid gwrthod cynllun dadleuol i adeiladu 33 o dai fforddiadwy ar gyrion pentref Llanilar, i'r de o Aberystwyth.

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Sir Ceredigion unwaith eto yn argymell gwrthod y cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar dir i’r dwyrain o Fferm Tanrallt.

Cafodd y penderfyniad ei ohirio fis diwethaf er mwyn i gynghorwyr ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Yn dilyn yr ymweliad, roedd aelodau’r Panel Archwilio Safleoedd yn unfrydol eu barn y dylid datblygu safleoedd eraill yng nghanol y pentref yn gyntaf, cyn rhoi ystyriaeth ffafriol i’r safle ar gyrion Llanilar.

Fe wnaeth yr aelodau hefyd fynegi pryder am y llwybr troed arfaethedig, gan ddweud y byddai’n well cael llwybr wrth ochr y briffordd.

Mae’r cais wedi ei gyflwyno gan Sion Jenkins o gwmni Tair Chwaer Cyf.

Mae'r cynlluniau yn dangos y byddai’r datblygiad yn cynnwys 33 o dai, gyda phob un ohonynt yn rhai fforddiadwy.

Deiseb yn gwrthwynebu 

Byddai’r safle ar dir amaethyddol i’r de o’r A485, i’r gorllewin o’r pentref.

Byddai llwybr troed tua 400 metr o hyd hefyd yn cael ei greu y tu ôl i dai presennol er mwyn cysylltu’r datblygiad â gweddill Llanilar.

Mae swyddogion y cyngor yn dweud bod y safle y tu allan i ffin ddiffiniedig llefydd i fyw yn Llanilar. Maent hefyd yn dweud nad oes cyfiawnhad digonol dros adeiladu’r tai yno yn hytrach nag ar safleoedd sydd wedi eu dynodi yng nghanol y pentref.

Dadl arall y swyddogion yw bod lleoliad y llwybr troed arfaethedig yn codi pryderon am ddiogelwch y cyhoedd.

Yn ôl yr adroddiad, gallai lleoliad anghysbell y llwybr annog pobl i yrru pellteroedd byr neu gerdded ar hyd y brif ffordd.

Mae 129 o wrthwynebiadau wedi dod i law’r cyngor, gan gynnwys deiseb â 252 o lofnodion.

Mae trigolion wedi codi pryderon am effaith bosib y cynllun ar wasanaethau lleol, diogelwch ar y briffordd, y Gymraeg a Chartref Gofal Preswyl Cysgod y Coed gerllaw.

Nid yw Priffyrdd Ceredigion, Dŵr Cymru na Chyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r cais, yn ddibynnol ar amodau.

Mae swyddogion cynllunio yn argymell gwrthod y cais gan ddweud ei fod yn mynd yn groes i nifer o bolisïau cynllunio lleol.

Mae disgwyl i Bwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion drafod y cais fore Mercher.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.