Conwy: Cabinet yn cefnogi'r cam nesaf tuag at gau Ysgol Betws y Coed ac Ysgol Ysbyty Ifan
Mae Cabinet Cyngor Conwy wedi pleidleisio o wyth i un o blaid cyhoeddi hysbysiadau statudol ar gyfer cau Ysgol Betws y Coed ac Ysgol Ysbyty Ifan.
Mae'r penderfyniad yn symud y ddau gynnig i gam nesaf y broses ad-drefnu ysgolion, ond nid yw'n golygu y bydd yr ysgolion yn cau ar unwaith.
Bydd cyfnod 28 diwrnod lle gall pobl gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol cyn i'r cyngor wneud penderfyniad terfynol.
Daw'r penderfyniadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal rhwng 28 Tachwedd 2025 a 9 Ionawr 2026.
Cafodd deiseb ei chyflwyno i'r cyngor â 966 o lofnodion yn gwrthwynebu cau Ysgol Betws y Coed.
Cafodd 178 o ymatebion eu cyflwyno i'r ymgynghoriad ar Ysgol Ysbyty Ifan, gyda 156 ohonyn nhw'n gwrthwynebu'r cynnig.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Conwy dros Addysg, y Cynghorydd Aaron Wynne, fod y cynigion yn rhan o ymdrech y cyngor i sicrhau bod darpariaeth addysg yn addas ar gyfer y dyfodol, er bod hynny'n golygu gwneud penderfyniadau anodd.
Dywedodd y cyngor fod y cynigion yn deillio o niferoedd disgyblion isel, costau fesul disgybl uchel a'r angen i sicrhau bod plant yn cael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd addysgol.
Ysgol Betws y Coed
Wrth gyflwyno'r achos dros Ysgol Betws y Coed, dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Julie Fallon, fod yr ysgol yn costio tua £21,000 fesul disgybl, o gymharu â chyfartaledd o tua £5,000.
Yn ôl y cyngor, Ysgol Betws y Coed yw'r ail ysgol ddrutaf yng Nghymru fesul disgybl.
Dywedodd fod lle i tua 100 o ddisgyblion yn yr ysgol, ond mai dim ond 13 o blant sydd wedi cofrestru i fynychu ym mis Medi.
Ychwanegodd fod nifer o deuluoedd lleol eisoes yn dewis anfon eu plant i ysgolion eraill, gan gynnwys Ysgol Bro Gwydir ac Ysgol Capel Garmon.
Dywedodd y Cynghorydd Kay Redhead fod safle'r ysgol yn "hyfryd", gyda chyfleusterau ac ardaloedd dysgu awyr agored o safon.
Ond ychwanegodd nad oedd rhieni, am ba bynnag reswm, yn dewis anfon eu plant yno.
"Mae'n drueni, oherwydd byddai hwnnw'n lleoliad gwych ac yn adeilad gwych i fwy o ddisgyblion ddod iddo," meddai.
Ysgol Ysbyty Ifan
Wrth drafod Ysgol Ysbyty Ifan, dywedodd y Cynghorydd Fallon mai hon yw'r ail ysgol ddrutaf fesul disgybl yn y sir.
Mae 12 o ddigyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd, ac ni chafodd unrhyw blant meithrin eu cofrestru y llynedd. Nid oes disgwyl unrhyw blant meithrin newydd y flwyddyn nesaf chwaith.
Dywedodd fod y cyngor eisiau cymryd dull wedi’i reoli, yn hytrach nag aros nes bod nifer y disgyblion yn disgyn yn is na 10, pan fyddai modd defnyddio proses fyrrach o dan bolisi Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd fod Ysgol Pentrefoelas tua thair milltir i ffwrdd, ac y byddai ysgol fwy yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant gymysgu â disgyblion eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Kay Redhead ei bod yn deall pryderon cymunedau gwledig, ond bod symud ei phlant hi o ysgol fach i ysgol fwy wedi bod yn "hollol wych" iddyn nhw.
Ond pwysleisiodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, sy'n cynrychioli ward Uwch Conwy, arwyddocâd yr ysgol i'r gymuned.
Dywedodd ei fod yn "ddiwrnod hanesyddol", beth bynnag fyddai canlyniad y bleidlais.
Ychwanegodd fod rhai plant bellach yn bedwaredd genhedlaeth o'u teuluoedd i gael eu haddysg yn yr ysgol.
"Mae cau ysgol yn fwy, lawer lawer, na chau drws ac arbed arian," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Gwennol Ellis ei bod yn "wir ddrwg" bod y gymuned wedi cyrraedd y sefyllfa hon.
"Beth bynnag fydd yn digwydd, cadwch eich plant gyda'i gilydd, fel eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw'n perthyn i gymuned Ysbyty Ifan," meddai.