Belfast: Galw ar bobl i ‘bwyllo’ ar ôl i ddyn o Sudan gael ei arestio am drywanu
Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Iwerddon wedi galw ar bobl i “bwyllo” wedi i ddyn o Sudan gael ei arestio ar amheuaeth o drywanu yn Belfast.
Daw wrth i’r heddlu baratoi ar gyfer protestiadau yn y rhanbarth nos Fawrth yn sgil yr ymosodiad honedig.
Mae dioddefwr yr ymosodiad â chyllell wedi cael anafiadau sylweddol i’w lygaid.
Dywedodd yr heddlu bod gan yr ymosodwr honedig ganiatâd i aros yn y DU ar ôl teithio i Ogledd Iwerddon o Ddulyn.
Roedd y dyn sy'n cael ei amau, sydd yn ei 30au, hefyd wedi gadael clwyfau ar wyneb a chefn y dioddefwr, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ryan Henderson nad oedd unrhyw arwydd bod yr ymosodiad yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi datgan “digwyddiad o bwys” wrth ymateb i’r ymosodiad.
Fe gafodd ei ffilmio ar fideo ac mae’n ymddangos fel pe bai’n dangos dyn yn trywanu pen a gwddf y dioddefwr tra oedd yn gorwedd ar y llawr.
Mae’r clip yn dangos pobl, gan gynnwys un person â ffon o’r gamp hyrli (hurling) yn ymyrryd i atal y dyn rhag ymosod ar y dioddefwr mewn ardal breswyl ger Ffordd Antrim.
Cafodd cyllell gegin ei darganfod yn y fan a’r lle, meddai Mr Henderson.
Dywedodd yr heddlu i ddechrau eu bod yn credu bod y dyn o dan amheuaeth yn dod o Somalia, ond fe wnaethon nhw egluro wedyn mai dyn o Sudan ydyw.
Dywedodd Mr Henderson wrth ohebwyr yn Belfast: “Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw wybodaeth sy’n awgrymu bod hwn yn ddigwyddiad a oedd yn gysylltiedig â therfysgaeth.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bwysleisio - mae’n rhaid i mi bwysleisio - ein bod yn dal yng nghamau cynnar ein hymchwiliad.”
Dywedodd Mr Henderson ei fod yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer protestiadau yng Ngogledd Iwerddon mewn ymateb i’r digwyddiad.
Apeliodd ar bobl i sicrhau bod y protestiadau yn rhai heddychlon.