Dyn 27 oed yn gwadu treisio dynes tra'n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan

Newyddion S4C

Dyn 27 oed yn gwadu treisio dynes tra'n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan

Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn dyn 27 oed sydd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes tra'n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan bron i dair blynedd yn ôl. 
 
Yn Llys y Goron Caernarfon, mae Emlyn Jones yn gwadu'r pedwar o gyhuddiadau yn ei erbyn sy'n cynnwys ymosod yn rhywiol, tagu'n fwriadol a threisio. 
 
Mi glywodd y llys fod Emlyn Jones a'r ddynes wedi cyfarfod mewn cyngerdd ar faes yr Eisteddfod ar 6 Awst 2023.
 
Clywodd y llys fod y ddynes wedi gadael y cyngerdd gyda dyn arall a thra'n chwilio am y garafan lle roedd hi'n aros, daeth y ddau ar draws Emlyn Jones unwaith eto. 
 
Ma'r erlyniad yn honni bod y tri wedi cysgu mewn adlen carafan. Roedd y ddynes yn y canol gydag Emlyn Jones ar un ochr a'r dyn arall ar yr ochr arall. 
 
Clywodd y llys fod y dyn hwnnw wedi gadael y babell ar ôl gweld Emlyn Jones yn ymddwyn yn amhriodol tuag at y ddynes.
 
Clywodd y llys wedyn fod y ddynes wedi gofyn i'r diffynydd "Be ti 'di neud?" ac mi ymddiheurodd o.
 
Dywedodd wrtho: "Mi i gysga i'n fama. Cysga di fanna" ac mi ddywedodd "Paid â nghyffwrdd i." 
 
Yn ôl yr erlyniad, mae'r ddynes yn cofio deffro gydag Emlyn Jones arni ac yn cyffwrdd ei bronnau. Clywodd y llys iddi hi geisio ei stopio ac ymladd yn ei erbyn.
 
Pan ddechreuodd ei thagu yn honedig, mi wnaeth hi banicio a methu symud. Ar yr adeg yma, yr honiad ydy iddo gael rhyw efo hi. 
 
Clywodd y llys iddo adael ac mi wnaeth y ferch gloi ei hun mewn car. 
 
Clywodd y llys fod Emlyn Jones wedi dweud eu bod wedi cytuno i gael rhyw efo'i gilydd a nad oedd gwirionedd yn yr honiad ei fod wedi ei threisio. 
 
Mae'n gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.