Mwg o dân mewn adeilad yn 'effeithio' ar yr A470

Mwg o dân mewn adeilad yn 'effeithio' ar yr A470

Mae mwg o dân mewn adeilad yn "effeithio" ar yr A470 yn y Rhondda.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod criwiau yn bresennol mewn tân diwydiannol mawr yn Nhŷ Menter, Parc Navigation yn Abercynon.

Mae'r adeilad wedi ei leoli'n agos at adeilad Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae sawl criw yn bresennol ac mae'r digwyddiad yn parhau.

Mae'r gwasanaeth tân yn annog pobl sydd yn byw ger yr adeilad i gadw eu ffenestri ar gau.

Hefyd, maen nhw'n dweud bod mwg yn effeithio ar ffordd yr A470 gerllaw ac yn annog aelodau'r cyhoedd i osgoi'r ardal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.