Marwolaeth Rhys Jenkins: Optegydd yn gwadu iddo 'rasio gyda'i frawd'
Mae optegydd sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth tad 41 oed drwy yrru'n beryglus ym Mhowys wedi dweud wrth reithgor nad oedd yn rasio yn erbyn ei frawd ar y pryd.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd Umar Yusaf, sy'n 35 oed wrth y rheithgor nad oedd yn rasio gyda'i frawd ar unrhyw adeg yn ystod ei daith 150 milltir o'i waith yn Aberystwyth i'w gartref ym Manceinion .
Nododd wrth y bargyfreithiwr Sean Minihan nad oedd wedi bwriadu gyrru "mewn rhyw fath o gonfoi" gyda'i frawd Abubakr.
Honno fod yr hyn a oedd yn credu allai fod yn fwd ar ffordd yr A483 ger y Trallwng, lle digwyddodd y gwrthdrawiad.
Mynnodd Umar Yusaf: "Bob tro y gwnes i oddiweddyd, fe wnes i hynny mewn modd diogel."
Gofynnodd Mr Minihan: "A wnaethoch chi yrru'n beryglus y noson honno?"
"Na," oedd ateb Mr Yusaf.
Gwadodd hefyd iddo yrru'n ddiofal.
Gofynnodd Mr Minihan: "A wnaethoch chi, drwy eich dull o yrru, annog eich brawd Abu i yrru'n beryglus?"
Atebodd Mr Yusaf: "Na. Fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl, gan nad oeddwn yn gwybod lle roedd e ar y daith."
Mae Umar Yusaf ac Abubakr Yusaf, 31, sydd hefyd yn optegydd, y ddau o Fanceinion yn gwadu iddyn nhw achosi marwolaeth Rhys Jenkins drwy yrru'n beryglus ar ffordd yr A483 fis Tachwedd 2024.
Mae Abubakr Yusaf hefyd wedi ei gyhuddo o yrru car heb yswiriant.
Roedd Mr Jenkins yn ddyfarnwr rygbi o Ddeuddwr, Powys, ac yn gyrru cerbyd gyda'i fab yn deithiwr, adeg y gwrthdrawiad.
Mae'r brodyr hefyd yn gwadu achosi anaf difrifol i fab naw oed Mr Jenkins, Ioan, drwy yrru'n beryglus.
Roedd y diffinyddion yn gyrru ceir BMW ac Audi rhwng 18:00 a 18:30 ar 16 Tachwedd 2024, pan gollodd Abubakr Yusaf reolaeth ar ei gerbyd yn honedig.
Yn y gwrandawiad ddydd llun, roedd Umar Yusaf yn emosiynol pan ddisgrifiodd yr hyn a ddigwyddodd wedi'r gwrthdrawiad.
Nododd nad oedd y teithiwr yng nghar Mr Jenkins, sef ei fab, yn ymwybodol. Dywedodd iddo roi Ioan ar ddarn o laswellt yn ymyl y ffordd gan ofyn i rywun wrth law a oedd ganddo flanced.
Yna, dywedodd y diffynydd iddo ddychwelyd at y car BMW a oedd yn cael ei yrru gan ei frawd. Nododd fod Abubakr Yusaf wedi dod allan o'i gar ac yn eistedd yn sedd y teithiwr yn y car Audi.
"Roedd yn ymddangos fel pe bai wedi drysu, roedd e'n edrych fel pe na bai e'n gwybod beth oedd yn digwydd," meddai Umar Yusaf.
Clywodd y llys iddo adael safle'r gwrthdrawiad gyda'i frawd yn yr Audi a gyrru i archfarchnad Tesco yn y Trallwng.
Pan ofynnodd y bargyfreithiwr iddo pam nad oedd wedi galw'r gwasanaethau brys, dywedodd Umar Yusaf nad oedd yn medru meddwl yn glir, ar y pryd.
Ychwanegodd Umar Yusaf iddo geisio gyrru yn ôl i safle'r gwrthdrawaid.
Mae'r achos yn parhau.
