Yr Urdd yn cynnig lloches i deuluoedd o Affganistan

Yr Urdd yn cynnig lloches i deuluoedd o Affganistan
Mae Urdd Gobaith Cymru yn paratoi i dderbyn teuluoedd o Affganistan i Gymru.
Mae dros 200 o bobl, neu 50 o deuluoedd, bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl ffoi o Affganistan.
Daw hyn dair wythnos wedi i’r Taliban gipio grym yn y wlad, gyda nifer o ddinasyddion yn penderfynu ffoi o’u mamwlad er mwyn osgoi bywyd dan reolaeth y grŵp eithafol.
Mae’r Urdd wedi ymrwymo i helpu cynnig lloches brys i deuluoedd sydd wedi ffoi o’r wlad.
Bydd y mudiad yn gofalu am y ffoaduriaid drwy baratoi prydau bwyd, darparu ystafelloedd en suite, cynorthwyo partneriaid gyda’r gwaith ail-gartrefu yn ogystal â threfnu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, celfyddydol ac addysgol er mwyn cefnogi’r teuluoedd wrth iddynt setlo.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis wrth raglen Newyddion S4C bod hyn yn gam “naturiol” fel mudiad ieuenctid: “Ma' 'na nifer helaeth o blant a phobl ifanc yn y carfan yma o bobl 'da ni yn lletya, felly yn naturiol fel mudiad ieuenctid mae gyda ni staff brwdfrydig sy' methu aros i gychwyn y gwaith o gefnogi nhw.
“Byddwn ni’n sicrhau bo 'na weithgareddau sy'n mynd â nhw i ffwrdd o'r erchylltra ma' nhw di wynebu dros yr wythnosau diwethaf, ac yn rhoi sylw ar rywbeth chydig bach mwy hapus a hwylus yn eu bywydau nhw".
Mae gan y mudiad hanes o gyflawni gwaith dyngarol drwy ei neges heddwch ac ewyllys da.
Ychwanegodd Sian Lewis: “Yn amlwg 'da ni'n fudiad lle ma' 'na waith dyngarol wedi o hyd bod yn rhan o'n bodolaeth ni ers cychwyn yr Urdd bron i ganrif yn ôl.
“'Da ni wedi helpu yn y fath yma o waith dros y blynyddoedd, pobl o Syria, y gwaith yng Ngwlad Pwyl, yn Bosnia, yn Kenya yn fwy diweddar. Felly mae yn rhan craidd o'n gwaith ni, ac mae'n bwysig yn y cyfnod o angen sydd angen ar y gymuned Afghan ein bo ni yma i'w cefnogi nhw".
Mae’r Urdd yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref, Awdurdodau Lleol, Cytûn a sefydliadau yn y sector ffoaduriaid yng Nghymru i ddarparu ymateb strategol i’r sefyllfa yn Afghanistan.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi cyrraedd yn bobl sydd wedi cefnogi’r fyddin yng Nghymru yn Affganistan dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Mae hyn yn cynnwys pobol fel cyfieithwyr, yn ogystal â gweithwyr fel swyddogion heddlu.
'Cymru'n genedl noddfa'
Dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt: “Mae Cymru'n genedl noddfa – byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi croeso cynnes yn y tymor byr a bydd ein cymunedau, heb os, yn cael eu cyfoethogi gan eu sgiliau a'u profiadau yn y dyfodol agos iawn.
“Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynlluniau hyn ac wedi cynnig eu cefnogaeth a'u cymorth i ddinasyddion Affganistan sy'n cael eu hailgartrefu yn y DU. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid yn y dull cydweithredol hwn o weithredu Cenedl Noddfa i gydgysylltu'r addewid sylweddol hwn".
Mae Ms Hutt wedi diolch i’r Urdd am eu “gweledigaeth ddyngarol”.